Gweithredir y cynllun hwn gan Dai Wales & West mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol er mwyn cynorthwyo’r rhai sy’n prynu eiddo ac sy’n dymuno gwneud hynny, ond nad ydynt yn gallu talu’r gost lawn o brynu eu cartref cyntaf.
Cynigir cartrefi dan y cynlluniau i brynwyr am 70% o’u gwerth ar y farchnad agored. Byddech chi’n berchen ar yr eiddo yn llwyr, ond byddai Tai Wales & West yn dal pridiant cyfreithiol dros y gyfran ecwiti 30% sy’n weddill. Dim ond am y 70% y byddai angen i chi sicrhau morgais/blaendal, ac ni fyddai unrhyw log na rhent yn daladwy ar y gyfran ecwiti o 30%.
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos trwy gyfrwng morgais mewn egwyddor eu bod yn gallu talu am 70% o werth yr eiddo. Byddai gofyn i gwmnïau morgais gael blaendal o rhwng 5% a 15% o hyd fel arfer.
Bydd prynu eiddo trwy’r cynllun yn golygu talu’r costau arferol sy’n gysylltiedig â phrynu eiddo ar y farchnad agored, gan gynnwys prisiad, ffioedd arolwg a morgais, ffioedd cyfreithiol a threth stamp.