Ydym mewn bron pob achos – rydym yn ymwybodol o’r hapusrwydd a’r cwmni y gall anifeiliaid anwes ei gynnig, a’r unig beth y byddwn yn ei ofyn yw eich bod yn dilyn ychydig reolau syml. A fyddech gystal â rhoi gwybod i ni os ydych chi’n bwriadu cael anifail anwes trwy lenwi’r ffurflen caniatâd i newid. Ar ôl i chi ddod yn berchennog anifail anwes, dylech ofalu amdanynt mewn ffordd gyfrifol, gan sicrhau na fyddant yn peri niwsans i gymdogion. Ni chewch gadw unrhyw anifail sydd wedi cofrestru dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976, a dim ond os oes gennych chi dystysgrif eithriad gan lys y gallwch gadw ci sydd wedi cofrestru dan Ddeddf Cŵn Peryglus 1991. Cysylltwch â’ch Swyddog Tai os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu os bydd angen cyngor arnoch.
