Newyddion

27/03/2026

Taith trwy’r tymhorau

Idyllic landscape in the Alps, tree, grass and mountains,

Mae gan Wasanaethau Cynnal a Chadw Cambria dri thîm o weithwyr cynnal a chadw tir, sy’n gweithio gyda gofalwyr safle, i ofalu am ein safleoedd. 

Y tu hwnt i’r tasgau nodweddiadol, efallai y bydd y timau yn helpu gyda phrosiectau amgylcheddol a ariannir gan grantiau hefyd, i blannu coed a bylbiau er mwyn dwyn lliw i’n cymunedau.

Dyma sut mae blwyddyn nodweddiadol yn edrych  

Gwanwyn/haf – Mawrth i Fedi  

Gwanwyn yw’r adeg pan fydd popeth yn adfywio a bydd ein timau cynnal a chadw tir yn estyn am eu peiriannau torri porfa, strimwyr a chwythwyr.  Byddwn yn galw’r cyfnod hwn yn “dymor torri”.  Yn ystod y rhan gyntaf, mae’n dymor nythu adar hefyd, pan fydd hi’n anghyfreithlon tocio coed a gwrychoedd nes bydd y cywion wedi magu plu a gadael y nyth.  Gallai’r gwaith nodweddiadol yn ystod y cyfnod hwn gynnwys: 

  • torri porfa am y tro cyntaf ar ôl y gaeaf 
  • gwaith torri porfa a strimio arferol 
  • rheoli chwyn 
  • glanhau safleoedd a chasglu sbwriel 

 

Hydref/gaeaf – Hydref i Chwefror  

Y tu hwnt i’r tymor tyfu, gall y timau ganolbwyntio ar y math o waith na ellir ei wneud yn ystod yr haf, er enghraifft, tocio coed a gwrychoedd. 

Gallai’r gwaith nodweddiadol gynnwys: 

  • glanhau safleoedd a chasglu sbwriel  
  • trimio gwrychoedd a llwyni a thocio coed  
  • glanhau mwsogl oddi ar lwybrau  
  • archwilio coed am beryglon posibl yn ystod y gaeaf  
  • clirio dail, llystyfiant sydd wedi gwywo a sbwriel arall