Skip to content
Sgyrsiau Cymunedol

Cadw’r Sgyrsiau Cymunedol i fynd

This content is password-protected. To view it, please enter the password below.

Rydych wedi bod yn dweud wrthym beth sy’n bwysig i chi am eich cartref a’r ardal lle rydych yn byw.

Fel rhan o’n rhaglen Sgyrsiau Cymunedol, mae staff gweithredol wedi bod yn cwrdd â phreswylwyr ar draws Cymru.

O Bowys i Benarth, o Gaerdydd i Geredigion, ac o Ben-y-bont ar Ogwr i Barracksfield, mae dwsinau o sgyrsiau wedi cael eu cynnal.  Mae’n gyfle i ni glywed beth sydd gennych i’w ddweud am eich cartref a’ch cymuned, ac i chi gymryd rhan wrth lunio’r pethau sy’n bwysig i chi.

Gyda llawer mwy wedi’u cynllunio dros y misoedd nesaf, mae mwy o gyfleoedd i chi ddweud eich dweud.

1

Y newyddion diweddaraf o’n Sgyrsiau Cymunedol 

I gael rhagor o wybodaeth am ein Sgyrsiau Cymunedol a’r lleoedd y byddwn yn ymweld â nhw nesaf, ewch i’n gwefan.

Cyfle i arddwyr Penarth ofyn cwestiynau

Roedd y gerddi cymunedol ymhlith y nifer o bynciau a drafodwyd pan ymwelodd ein tîm â phreswylwyr cynllun ymddeol Oak Court ym Mhenarth.

Fel rhan o’n Sgyrsiau Cymunedol, treuliodd staff brynhawn ym mis Ebrill yn y cynllun ym Mro Morgannwg yn gwrando ar farn y preswylwyr sy’n byw yno.

1

Siarad â phreswylwyr yn Nhongwynlais 

Mae ein timau wedi bod allan yn y gymuned yn siarad â phreswylwyr ledled de Cymru fel rhan o’n Sgyrsiau Cymunedol parhaus.

Ym mis Ebrill, ymwelsom â phreswylwyr yn ystâd Catherine Drive, Tongwnylais. Wedi’i leoli yng nghysgod Castell Coch hanesyddol, mae’r cynllun yn gartref i fwy na 100 o deuluoedd ac unigolion.

1

Mynd â’n Sgyrsiau Cymunedol i Geredigion 

Ym mis Ionawr, cynhaliwyd Sgwrs Gymunedol lwyddiannus yng Ngwar y Garth, Penrhyn-coch, ger Aberystwyth, lle ymwelodd staff gweithredol a datblygu â phreswylwyr yn eu cartrefi newydd, flwyddyn ar ôl iddynt symud i mewn.

1