Diogelwch wrth wefru batri – atal tanau yn eich cartref
Mae llawer o ddyfeisiau cludadwy, megis gliniaduron, ffonau symudol, sgwteri trydan, teganau plant a sigaréts electronig, yn cynnwys batris lithiwm-ion y gellir eu hailwefru.
Maent yn ysgafn ac yn bwerus, sy’n eu gwneud yn ddewis poblogaidd ar gyfer pweru ystod eang o eitemau ac offer bob dydd yn y cartref. Ond gallant hefyd beri mwy o risgiau.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cyfres o danau difrifol mewn tai ledled y wlad wedi arwain gwasanaethau tân at rybuddio am y peryglon os na chaiff batris lithiwm-ion eu gwefru neu eu trin yn gywir. Os na chânt eu defnyddio’n ddiogel, mae perygl y gallant orboethi, mynd ar dân neu ffrwydro, gan gynyddu’r risg o dân mewn tŷ neu garej ac achosi anaf personol.
Awgrymiadau ar gyfer gwefru’n ddiogel
Er mwyn cadw’n ddiogel, dilynwch y cyngor hwn gan Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru.
Defnyddiwch y gwefrydd cywir
Gwnewch yn siŵr eich bod bob amser yn defnyddio’r gwefrydd a ddaeth gyda’ch dyfais neu un newydd dilys gan gyflenwr dibynadwy.
Osgowch or-wefru
Datgysylltwch ddyfeisiau unwaith y byddant wedi’u gwefru’n llawn.
Gwefru’n ddiogel
Gwefrwch fatris mewn man diogel a gweladwy. Osgowch eu gwefru ger deunyddiau fflamadwy neu mewn llwybrau dianc, megis coridorau neu gynteddau.
Gwefrwch ar arwyneb caled, gwastad ac anfflamadwy, megis arwyneb gwaith cegin, ac osgowch ddodrefn meddal neu garpedi.
Gwefrwch ddyfeisiau pan fyddwch yn effro ac yn agos atynt. Osgowch wefru dros nos neu pan fyddwch chi allan o’r tŷ.
Datgysylltwch y gwefrydd unwaith y bydd y batri wedi’i wefru’n llawn. Mae gwefru parhaus yn cynyddu’r risg o dân.
Gwiriwch gyflwr eich batri
Peidiwch â defnyddio eich batris os ydynt yn edrych wedi chwyddo neu wedi’u difrodi, neu os ydynt yn gorboethi.
Osgowch dymereddau eithafol
Peidiwch â gwefru na storio batris mewn amgylcheddau sy’n rhy boeth neu’n rhy oer. Sicrhewch fod yr ardal wedi’i hawyru’n dda ac osgowch leoedd caeedig.
Cadwch fatris i ffwrdd o olau haul uniongyrchol a ffynonellau gwres.
Peidiwch â gorchuddio dyfeisiau wrth eu gwefru
Osgowch wefru o dan glustogau neu flancedi. Gall hyn gadw gwres i mewn ac achosi gorboethi, gan gynyddu’r risg o dân.
Byddwch yn wyliadwrus o gynhyrchion ffug
Mae’n bosibl na fydd gwefrau a batris rhad yn cydymffurfio â safonau diogelwch y DU a gallant fod yn fwy peryglus.
Sicrhewch fod larwm mwg gerllaw
Gwefrwch ddyfeisiau mewn mannau sydd â larwm mwg neu synhwyrydd gwres yn unig, ac ystyriwch sut y byddech yn gadael eich cartref pe bai tân yn digwydd. Cofiwch brofi eich larymau mwg a synwyryddion gwres bob wythnos, a ffoniwch 0800 052 2526 os na fyddant yn gweithredu yn ystod y prawf.
Sut i waredu batris yn ddiogel
Peidiwch byth â thaflu batris lithiwm yn eich bin gwastraff cartref.
Defnyddiwch bwyntiau casglu dynodedig, megis archfarchnadoedd neu adferwyr mawr, sy’n darparu biniau ailgylchu batris.
Os na ellir tynnu’r batri allan, dylech drin yr eitem gyfan fel gwastraff trydanol a mynd ag ef i ganolfan ailgylchu gwastraff y cartref. Mae rhai adwerthwyr yn cynnig cynllun cyfnewid os ydych yn prynu eitem newydd yn ei lle.
Mae pob awdurdod lleol yn darparu cyfleusterau ailgylchu batris yn eu canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref. Os ydych yn gwaredu pecyn batri o feic trydan neu sgwter trydan, dylech wirio gyda’ch canolfan ailgylchu leol yn gyntaf. Os ydych yn gwaredu pecyn batri o feic trydan neu sgwter trydan, dylech wirio gyda’ch canolfan ailgylchu leol yn gyntaf.