Skip to content
Cartrefi newydd

Cartrefi pentref newydd i deuluoedd Sir Benfro

This content is password-protected. To view it, please enter the password below.

Mae ein datblygiad tai newydd yn Ninas, Sir Benfro, yn helpu i ddarparu cartrefi fforddiadwy, gan alluogi teuluoedd lleol i aros yn y cymunedau lle cawsant eu geni a’u magu.

Mewn ardal lle mae pris cyfartalog tŷ yn fwy na £330,000, mae pobl leol yn aml yn cael eu gorfodi i symud allan o’r ardal oherwydd y diffyg cartrefi fforddiadwy i’w rhentu.

I Jessica, sy’n breswylydd newydd, bydd symud i mewn i un o’r 14 cartref newydd ym Mharc Nantwen yn rhoi’r cartref y mae hi a’i dau blentyn ifanc wedi bod yn aros amdano.

Dychwelodd Jessica adref i Dinas dros dair blynedd yn ôl er mwyn bod yn agosach at ei theulu.

“Dychwelais i fyw gyda fy rhieni wrth baratoi ar gyfer dyfodiad fy merch,” meddai.

“Ar ôl iddi gael ei geni, dechreuais chwilio am le i ni ein hunain.  Doeddwn i ddim yn gallu fforddio unrhyw beth addas yn yr ardal, ac roeddwn eisiau aros yn agos at fy rhieni er mwyn cael eu cefnogaeth.”

Cofrestrodd Jessica am gartref gyda Dewis Tai Sir Benfro ac aros.  Yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd hi’n rhannu ystafell yng nghartref ei rhieni gyda’i merch a’i mab bach.

Ym Mharc Nantwen, rydym wedi gweithio’n agos gyda Chyngor Cymuned Dinas a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ddatblygu polisi gosod lleol sy’n rhoi blaenoriaeth i deuluoedd ac unigolion sy’n bodloni’r meini prawf cysylltiad lleol ar gyfer cymunedau Dinas, Trefdraeth a Bro Gwaun. Mae hyn yn helpu pobl sydd â chysylltiad lleol i aros yng nghefn gwlad Sir Benfro, gan gefnogi’r gymuned leol.

“Roedd hi fel tynged fy mod wedi cael cynnig tŷ ym Mharc Nantwen.  Mae ond pum munud ar droed o gartref fy rhieni, a bydd fy merch yn dechrau’r ysgol ym mis Medi,” meddai Jessica, sy’n gweithio’n rhan-amser mewn siop leol yn Nhrefdraeth gyfagos.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael cartref ein hunain ac ymgartrefu yn ein trefn ein hunain.

“Mae fy rhieni wedi bod yn arbennig o dda i ni, ond bydd yn braf iddyn nhw gael eu lle yn ôl ac i ni greu cartref teuluol ein hunain.”

1

Symudodd y cwpl lleol Sarah a William Lewis i’w fflat ar y llawr gwaelod o’u tŷ rhent preifat yn Ninas.

“Rydyn ni wastad wedi bod yn hapus yn ein cartrefi rhent preifat, ond mae’r ansicrwydd yna bob amser y gallai eich landlord roi rhybudd i chi ar unrhyw adeg.

“Rydyn ni wedi bod ar restr aros tai’r cyngor ers 10 mlynedd, yn gobeithio cael cartref ein hunain, ond roedd lle y gallem fyw wedi’i gyfyngu gan ein hamgylchiadau,” eglura Sarah.

“Doedden ni ddim eisiau symud i ffwrdd oddi wrth ein teulu a’n ffrindiau yn Nhrefdraeth a Dinas, ac roedd angen i ni aros yn yr ardal oherwydd gwaith William.”

Yn enedigol o Drefdraeth ac wedi treulio ei oes yno, mae William wedi gweithio mewn gwesty lleol a pharc gwyliau lleol am y 39 mlynedd diwethaf.

Roedd y cwpl wrth eu bodd pan gawsant gynnig cartref newydd ym Mharc Nantwen, gan fod ganddynt deulu yn byw yn natblygiad cyfagos Tai Wales & West, Parc Brynach.

“Rydyn ni wedi bod yn cael trafferth gyda’r grisiau, felly bydd y fflat yn llawer haws i ni.

“Rydyn ni wedi’n plesio’n fawr gyda’n cartref newydd.  ⁠Mae’n fwy nag yr oeddem yn ei ddisgwyl ac mae gennym ein patio ein hunain a’n gofod ein hunain.”

1