Skip to content
Newyddion preswylwyr

Newyddion o gwmpas ein cynlluniau

This content is password-protected. To view it, please enter the password below.

Glanhau’r gwanwyn ym Merthyr Tudful 

Ymunodd preswylwyr yn Nhwyncarmel mewn gweithgaredd glanhau’r gwanwyn pan wnaethom weithio gyda’n partneriaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) i drefnu diwrnod ailgylchu cymunedol.

Gwahoddwyd preswylwyr, mewn un rhan o’r cynllun, i ddod â’u heitemau diangen allan, a chafodd y rhain eu gwahanu yn ôl yr hyn y gellid ei ailgylchu.

Cafodd eitemau fel oergelloedd, rhewgelloedd, tostwyr, microdonnau, teganau, hen farbeciws a dodrefn eu cludo i ffwrdd i’w hailgylchu gan staff o CBSMT.  Ar gyfer eitemau eraill na ellir eu hailgylchu, fel gwastraff y cartref, darparwyd sgip.

Ymunodd gwirfoddolwyr cymunedol o Gymdeithas Tai Merthyr Tudful hefyd mewn casgliad sbwriel cymunedol.

Diolch i bawb a gymerodd ran! Byddwn yn trefnu digwyddiadau tebyg mewn rhannau eraill o’r cynllun yn y dyfodol.

1

Pen-blwydd Hapus Plas yr Ywen

Ymunodd preswylwyr yng nghynllun gofal ychwanegol Plas yr Ywen yn Nhreffynnon mewn parti i ddathlu pumed pen-blwydd y cynllun.

Daeth mwy na 60 o breswylwyr, sydd wedi gwneud eu cartrefi ym Mhlas yr Ywen, ynghyd ar gyfer dathliad prynhawn.  Ymunodd aelodau o’u teuluoedd, staff TWW, staff Cyngor Sir y Fflint a’r Cynghorydd Tref Daniel Thomas â nhw.

Mwynhawyd bwffe, a baratowyd gan y staff arlwyo, a bu pawb yn mwynhau’r gerddoriaeth fyw.  ⁠Roedd yna lawer o falŵns a llwyth o luniau i gofnodi’r achlysur.

Ymlaen at y pen-blwydd carreg filltir nesaf!

1