Y prif bethau i’w gwneud yn ystod gwyliau’r haf
Mae gwyliau’r haf yma, felly dyma rai syniadau am fannau i ymweld â nhw a phethau i’w gwneud gyda’r teulu. Er bod mynediad i lawer o’r lleoedd hyn am ddim neu am gost isel, cofiwch wirio gostau parcio lleol ymlaen llaw.
Lleoedd i ymweld â nhw gyda phicnic
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae digon o fannau picnic prydferth wrth ymyl nentydd a chronfeydd dŵr. Ewch ar daith i’r Ganolfan Ymwelwyr yn Libanus, sy’n cael ei hadnabod yn lleol fel y ‘Mountain Centre’, fel man cychwyn. Mae ganddo olygfa wych o Ben y Fan, mynydd uchaf de Cymru, yn ogystal ag ardal chwarae a chaffi. Gallwch hefyd gael cyngor am ddim gan yr arbenigwyr am y lleoedd gorau i ymweld â nhw.
Yn cael ei ddisgrifio fel calon werdd y brifddinas, mae’r parc yn lle gwych i archwilio ei Goed Pencampwr, dod o hyd i fan gysgodol ar gyfer picnic neu chwarae ar yr offer chwarae naturiol.
. Mae hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau drwy gydol yr haf, gan gynnwys cyngherddau cerddoriaeth mawr yng Nghastell Caerdydd a Pharc Blackweir gerllaw (mae angen tocynnau).
Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, Caerdydd
Camwch yn ôl mewn amser yn Sain Ffagan yr haf hwn. Drwy gydol mis Awst, bydd rhai gwesteion arbennig yn yr adeiladau hanesyddol o amgylch Lawnt Gwalia.Dewch i weld eitemau unigryw o gasgliad Amgueddfa Cymru, gan gynnwys cerbydau a cheirt. Mae mynediad am ddim, ond codir tâl am barcio.
Parc Gwledig Dyfroedd Alun, Wrecsam
Y parc gwledig mwyaf yn ardal Wrecsam, wedi’i leoli yng nghanol harddwch Dyffryn Alun. Ewch â phicnic gyda chi a threuliwch y diwrnod yn y parc. Mae digon o lwybrau cerdded drwy’r coetir, y glaswelltir ac ar lan yr afon, yn ogystal â maes chwarae i blant.
Parc Gwledig Loggerheads, Sir Ddinbych
Lle arbennig, yn gyfoethog o ran bywyd gwyllt a threftadaeth. Mae’n borth delfrydol i archwilio Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Digon o leoedd i fynd am dro, chwarae a mwynhau picnic.
Gwarchodfa Natur Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr
Ardal eang o dwyni tywod, pyllau a llynnoedd dŵr croyw, glaswelltir, prysgwydd a choetir, gan gynnal amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid, – mae’r warchodfa yn le poblogaidd i bobl sy’n mwynhau byd natur ac i deuluoedd sydd am fynd am dro.
Mwynhewch fynediad am ddim i lwybrau cerdded, maes chwarae, mannau picnic ac olion Castell Ewlo i’w harchwilio.
Canolfan Ymwelwyr Garwnant, ger Merthyr Tudful
Ychydig oddi ar yr A470, i’r gogledd o Ferthyr Tudful. Mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant wedi’i leoli o fewn 400 erw o goetir ar ochr ogleddol Cronfa Ddŵr Llwyn-on, fe welwch lwybrau cerdded, llwybrau beicio mynydd, gwasanaeth llogi beiciau, gweithgareddau ac ardal chwarae i blant, canolfan ymwelwyr, caffi a siop anrhegion.
Llwybr Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro
Mae’r Llwybr Cenedlaethol trawiadol hwn, sy’n ymestyn am 186 milltir (299 km), yn cynnwys rhai o’r golygfeydd arfordirol mwyaf amrywiol ym Mhrydain. Dros 600 milltir o lwybrau troed cyhoeddus. Edrychwch ar y wefan am 200 o lwybrau cerdded cylchol, gan gynnwys llwybrau hanner diwrnod, teithiau cerdded byr, yn ogystal â theithiau cerdded hawdd eu cyrraedd.
Gwyliau a digwyddiadau
Mwynhewch straeon byw, paentio wynebau a gwehyddu helyg traddodiadol yn Niwrnod Natur blynyddol Cyngor Sir Ddinbych ddydd Sul 9 Awst. Mynediad am ddim.
Digwyddiad Teuluol Achub Ein Moroedd, Caerffili
Ymwelwch â Chanolfan Glowyr Caerffili ddydd Sadwrn 8 Awst, rhwng 10am a 2pm, ar gyfer digwyddiad cymunedol am ddim sy’n addysgu pobl am atal llygredd yn ein moroedd, crefftau am ddim, hwyl a gemau hefyd.
Cei Aberteifi yw’r lle i fod ar 15 Awst ar gyfer yr ŵyl fwyd blynyddol. Mae mynediad am ddim a gallwch bori’r stondinau bwyd, gwrando ar gerddoriaeth fyw, gwylio arddangosiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau i’r teulu.
Bydd strydoedd Aberaeron yn llawn bywyd dros Ŵyl y Banc mis Awst (31 Awst) ar gyfer parêd carnifal blynyddol y dref, sy’n dechrau am 1.45pm yng Nghadwgan Place. Mae’r parêd am ddim i’w gwylio ond mae mynediad i’r Cae Sgwâr yn £4 i oedolion ac am ddim i blant.
Yn cael ei chynnal rhwng 31 Gorffennaf a 2 Awst, bydd tref glan môr Ceredigion yn dod yn fyw gyda phob math o gerddoriaeth, o artistiaid lleol i fandiau adnabyddus. Er y bydd angen prynu tocyn ar gyfer prif gyngherddau’r ŵyl, mae mynediad am ddim yn ystod rhan o’r penwythnos ac mae hefyd nifer o berfformiadau awyr agored am ddim.
Yn dathlu 76 mlynedd, mae’r ŵyl bentref hon yn rhedeg o Awst 15–23 ac yn cynnwys popeth o rasys cwrwgl, hwyl i’r teulu a helfeydd trysor. Mae’r rhan fwyaf o’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim neu am gost isel.
Diwrnod Chwarae RAY Ceredigion
Ymunwch â dathliadau’r Diwrnod Chwarae Cenedlaethol mewn diwrnod llawn hwyl am ddim ar ddydd Mercher 5 Awst yng Nghae Sgwâr, Aberaeron. Yn cael ei gynnal gan yr elusen leol, RAY Ceredigion, bydd y gatiau ar agor rhwng 11.30am a 3.30pm ac mae mynediad am ddim.
Dathliad blynyddol Arberth gyda’r gorau o fwyd, diod a cherddoriaeth fyw Cymru yn cynnwys sgyrsiau, arddangosiadau, stondinau a pherfformiadau gan gantorion a bandiau lleol talentog drwy gydol y penwythnos. Cynhelir yr ŵyl ddydd Sadwrn 26 a dydd Sul 27 Medi. Mynediad am ddim i rai dan 16 oed.
Eisteddfod Genedlaethol, Llantwd, Sir Benfro
Bydd Eisteddfod y Garreg Las, sef gŵyl deithiol fwyaf Ewrop, sy’n dathlu’r Gymraeg a diwylliant Cymru, yn cael ei chynnal yn Llantwd ger Aberteifi rhwng 1 a 8 Awst. Mae tocynnau dyddiol yn £25 i oedolion a £15 i blant. Mae tocynnau am ddim i ofalwyr.