Protected: Cartrefi am rent fforddiadwy yng Nghaerffili
Pan gafodd Cerys, sy’n athrawes, lythyr gan ei landlord preifat yn dweud y byddai ei rhent yn codi i £1,250 y mis, roedd hi’n gwybod na allai fforddio byw yno mwyach.
“Roeddwn wedi byw yn y tŷ am dair blynedd ac, yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd y rhent wedi codi bob blwyddyn. Pan symudais i mewn cyntaf, roedd yn £790 ac aeth i fyny o hynny ymlaen.
“Doedd dim ffordd y gallwn di fforddio.”
Roedd Cerys, sy’n gweithio fel athrawes gyflenwi ran-amser, wedi bod ar restr aros tai’r awdurdod lleol ers nifer o flynyddoedd.
Felly roedd hi’n falch iawn pan gynigiodd Tai Wales & West gartref dwy ystafell wely iddi yn Stryd y Gelli, Hendredenny, Caerffili.
“Ar ôl y straen o orfod symud, rydyn ni’n dechrau ymgartrefu yn ein cartref newydd,” meddai Cerys, sy’n byw gyda’i merch ddwy flwydd oed, Ava. “Mae Ava wrth ei bodd gyda’i hystafell wely newydd. Mae hi’n ddwy oed, yn mynd ymlaen i fod yn 22!
“Mae’r ardal yn hyfryd a thawel, gyda theuluoedd eraill yn byw yma, ac mae’r cymdogion yn gyfeillgar.
“Y peth gorau oll yw bod y rhent yn hanner yr hyn roeddwn yn ei dalu’n breifat, ac rwy’n gwybod na fydd yn codi cannoedd o bunnoedd bob blwyddyn.
“Gallaf edrych ar fy nghyfrif banc a pheidio â phoeni am sut rydw i’n mynd i dalu am ein hanfodion. Mae hynny’n deimlad gwych.”
Mae’r cartrefi hyn ymhlith 40 o gartrefi newydd a adeiladwyd gan Barratt Redrow yn ardal Hendredenny. Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn darparu 20 o gartrefi newydd ychwanegol yn yr ardal.
“Y peth gorau oll yw bod y rhent yn hanner yr hyn roeddwn yn ei dalu’n breifat, ac rwy’n gwybod na fydd yn codi cannoedd o bunnoedd bob blwyddyn.
“Gallaf edrych ar fy nghyfrif banc a pheidio â phoeni am sut rydw i’n mynd i dalu am ein hanfodion.
Cerys, preswylydd TWW yn Hendredenny, Caerffili