Protected: Newyddion o gwmpas ein cynlluniau
Glanhau’r gwanwyn ym Merthyr Tudful
Ymunodd preswylwyr yn Nhwyncarmel mewn gweithgaredd glanhau’r gwanwyn pan wnaethom weithio gyda’n partneriaid yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) i drefnu diwrnod ailgylchu cymunedol.
Gwahoddwyd preswylwyr, mewn un rhan o’r cynllun, i ddod â’u heitemau diangen allan, a chafodd y rhain eu gwahanu yn ôl yr hyn y gellid ei ailgylchu.
Cafodd eitemau fel oergelloedd, rhewgelloedd, tostwyr, microdonnau, teganau, hen farbeciws a dodrefn eu cludo i ffwrdd i’w hailgylchu gan staff o CBSMT. Ar gyfer eitemau eraill na ellir eu hailgylchu, fel gwastraff y cartref, darparwyd sgip.
Ymunodd gwirfoddolwyr cymunedol o Gymdeithas Tai Merthyr Tudful hefyd mewn casgliad sbwriel cymunedol.
Diolch i bawb a gymerodd ran! Byddwn yn trefnu digwyddiadau tebyg mewn rhannau eraill o’r cynllun yn y dyfodol.
Pen-blwydd Hapus Plas yr Ywen
Ymunodd preswylwyr yng nghynllun gofal ychwanegol Plas yr Ywen yn Nhreffynnon mewn parti i ddathlu pumed pen-blwydd y cynllun.
Daeth mwy na 60 o breswylwyr, sydd wedi gwneud eu cartrefi ym Mhlas yr Ywen, ynghyd ar gyfer dathliad prynhawn. Ymunodd aelodau o’u teuluoedd, staff TWW, staff Cyngor Sir y Fflint a’r Cynghorydd Tref Daniel Thomas â nhw.
Mwynhawyd bwffe, a baratowyd gan y staff arlwyo, a bu pawb yn mwynhau’r gerddoriaeth fyw. Roedd yna lawer o falŵns a llwyth o luniau i gofnodi’r achlysur.
Ymlaen at y pen-blwydd carreg filltir nesaf!