Skip to content

Croeso i In Touch

Rhifyn diweddaraf ein cylchgrawn i breswylwyr Tai Wales & West.   

 

Neges gan Anne 

Croeso i rifyn Haf In Touch.  

⁠Mae’r haf yn ei anterth erbyn hyn: mae’r ysgolion ar eu gwyliau ac rydym yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser yn yr awyr agored gyda theulu a ffrindiau. 

Yn y rhifyn ar-lein hwn, rydym yn rhannu’r newyddion diweddaraf o’n cymunedau ac am ein gwasanaethau.  

Os ydych yn chwilio am bethau i’w gwneud gyda’ch teulu, mae gennym rai syniadau am leoedd i ymweld â nhw a digwyddiadau lleol sy’n rhad neu’n rhad ac am ddim.  

Gyda natur yn ei llawn ogoniant, mae’r haf hefyd yn gyfnod prysur i’n timau cynnal a chadw tir.  Rydym yn edrych ar y gwaith maent yn ei wneud i gadw’r ardaloedd cymunedol o amgylch eich cartrefi’n daclus. Rydym hefyd yn edrych ar effaith tipio anghyfreithlon a gwastraff ar ein cymunedau, ac yn rhannu awgrymiadau ynghylch yr hyn y gall pawb ei wneud i helpu i gadw cymunedau’n lân ac yn ddiogel.  

Dyma ddymuno haf hapus, iach a llawn mwynhad i bawb.    

Mawr obeithiaf y byddwch yn mwynhau darllen y rhifyn hwn.   

Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau am bynciau yr hoffech eu gweld mewn rhifynnau yn y dyfodol, neu syniadau  ynghylch sut y gallwn wella, cysylltwch â’n Tîm Cyfathrebu.    

Bydd rhifyn yr hydref/gaeaf yn cael ei argraffu a’i anfon i’ch cartrefi. 

 

1

Uchafbwyntiau’r rhifyn hwn: 

 

Mae tymor torri’r glaswellt wedi cyrraedd   

Mae’r haf yma ac mae ein timau cynnal a chadw tir yng Ngwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria wedi dechrau ar eu rhaglen waith haf.

Dyma beth maent yn ei wneud. 

1