Protected: Ein gwaith cynnal a chadw tir yn ystod yr haf
Mae tymor torri’r glaswellt wedi cyrraedd
Mae’r haf yma ac mae ein timau cynnal a chadw tir yng Ngwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria wedi dechrau ar eu rhaglen waith haf.
Gyda’r dyddiau hirach a mwy heulog, mae’r gerddi a’r mannau gwyrdd o amgylch ein cynlluniau wedi dod yn fyw.
Mae’n “dymor torri gwair” i’n staff cynnal a chadw tiroedd, gan fod glaswellt – a chwyn – yn ffynnu ar yr adeg hon o’r flwyddyn ac angen ychydig o sylw ychwanegol.
Gan fod y rhan fwyaf o adar bellach wedi magu eu cywion ac wedi gadael y nyth, gall ein timau ddechrau tocio gwrychoedd ac edrych ar goed lle mae canghennau’n hongian dros lwybrau a gerddi.
Yn ogystal â’u gwaith glanhau safleoedd a chasglu sbwriel drwy gydol y flwyddyn, mae gwaith cynnal a chadw tiroedd nodweddiadol yr adeg hon o’r flwyddyn yn cynnwys:
Gwaith torri porfa a strimio arferol
Mae digon o ddiwrnodau cynnes a heulog ynghyd â chawodydd rheolaidd yn creu amodau delfrydol i laswellt a chwyn dyfu, felly mae angen eu torri’n aml. Yn ystod cyfnodau hir o dywydd poeth a sych, gall mannau glaswelltog sychu a throi’n felyn. Pan fydd hyn yn digwydd, nid yw’r glaswellt yn tyfu cymaint ac nid oes angen ei dorri mor aml.
Mewn rhai ardaloedd yng ngorllewin Cymru, mae ein timau safle wedi cyfnewid eu strimwyr petrol am dorwyr sy’n cael eu pweru gan fatris, sy’n lanach ac yn dawelach ac maent yn eu gwefru wrth deithio o un safle i’r llall.
Rheoli chwyn
Os cânt eu gadael, gall chwyn fel dant y llew a danadl gwyllt, dyfu’n afreolus yn ystod misoedd yr haf. Mae ein timau cynnal a chadw tir yn monitro ac yn trin chwyn yn rheolaidd ar ardaloedd caled o amgylch ein cynlluniau, megis llwybrau a phatios, fel rhan o’u gwaith arferol.
“Blodau gwyllt yn tyfu yn y lle anghywir yw chwyn mewn gwirionedd,” meddai Owen Jones, ein Rheolwr Eiddo Rhanbarthol ar gyfer Gorllewin Cymru. “Byddwn yn eu trin ar lwybrau a phatios, ond lle maent yn gwella ardal byddwn yn eu gadael i dyfu, gan hybu bioamrywiaeth a darparu blodau, aeron a hadau gwerthfawr ar gyfer gwenyn, adar a bywyd gwyllt arall.”