Skip to content
Newyddion

Peryglon batris e-sgwteri ac e-feiciau

Gwelir cynnydd yn nifer y tanau a achosir mewn tai yng Nghymru gan fatris lithiwm-ion.

Mae batris lithiwm-ion yn gyffredin mewn nifer o gynhyrchion yn y cartref, o ffonau symudol ac offer y mae modd eu gwefru, i e-feiciau ac e-sgwteri. Maent yn dal mwy o ynni na mathau eraill o fatris ond maent yn creu mwy o risgiau hefyd gan eu bod yn gallu arwain at danau a ffrwydradau hyd yn oed os byddant yn cael eu difrodi neu os na fyddant yn cael eu storio neu’n cael eu gwefru yn ddiogel.

Mae gwasanaethau tân ac achub ar draws y DU wedi adrodd am gynnydd dramatig yn nifer y tanau a achosir mewn tai gan fatris lithiwm-ion a’u teclynnau gwefru. Yn Ne Cymru, dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cofnododd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru 100 o danau a achoswyd gan fatris.   Roedd bron i hanner y rheiny yn ymwneud ag e-feiciau ac e-sgwteri.

Mae wedi peri i wasanaethau tân a sefydliadau diogelwch yn y cartref ar draws y DU rybuddio am y peryglon.

Os ydych chi’n berchen ar, neu’n ystyried prynu, cynhyrchion sy’n cynnwys y batris hyn, dyma bethau y gallwch chi eu gwneud i sicrhau eich bod chi a’ch aelwyd yn cadw’n ddiogel.

Mae ein gwefan yn cynnwys y cyngor canlynol ynghylch sut i wefru a storio e-feiciau ac e-sgwteri a’r hyn i gadw golwg amdano wrth brynu e-feiciau, e-sgwteri, neu fatris newydd. ⁠

  • Storiwch eich e-feic neu’ch e-sgwter y tu allan mewn garej neu sied os oes modd
  • Cadwch llwybrau dianc ac allanfeydd yn glir os bydd angen i chi ei wefru y tu mewn
  • Gadewch i’r batri oeri cyn ei wefru ac yna, tynnwch y plwg allan ar ôl iddo orffen
  • Ni ddylech or-wefru’r batri
  • Ni ddylech ei wefru pan fyddwch yn cysgu neu pan na fydd unrhyw un yno
  • Archwiliwch eich batri yn rheolaidd am arwyddion difrod, yn enwedig os byddwch yn ei gwympo neu os byddwch yn cael damwain ar eich e-feic/e-sgwter oherwydd gall batris sy’n cael eu difrodi ordwymo neu fynd ar dân
  • Peidiwch â gorlwytho socedi trydanol

Gwyliwch fideo Electrical First ar ddiogelwch e-sgwteri ac
e-
feiciau

 

1
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.