Skip to content
Newyddion

Rheoli llwydni a chyddwysiad yn eich cartref

This content is password-protected. To view it, please enter the password below.

Rheoli llwydni a lleithder yn eich cartref 

Wrth edrych ymlaen at yr hydref, pan fydd y tymheredd yn dechrau gostwng, mae’r risg o lwydni a chyddwysiad yn eich cartref yn dechrau cynyddu.

Os caiff ei adael, gall cyddwysiad arwain at lwydni, a gall llwydni effeithio ar eich iechyd, eich cartref a’ch eiddo.

Fel landlord, mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein cartrefi’n iach ac yn gyfforddus i’n holl breswylwyr.

Beth yw cyddwysiad? 

Mae’r person cyffredin yn cynhyrchu 0.4 litr o ddŵr bob dydd, dim ond drwy anadlu! Ychwanegwch at hynny anifeiliaid anwes, stêm o goginio, cawodydd a golchi dillad, ac mae’r cyfan yn cronni. Pan fydd yr aer cynnes hwnnw’n dod i gysylltiad ag arwynebau oerach, fel ffenestri neu waliau, mae’n troi’n ddefnynnau dŵr – cyddwysiad. Os caiff ei adael, bydd llwydni’n ffynnu ar ffurf smotiau bach llwyd, du neu wyrdd, a all ledaenu os na chânt eu trin.

 

Beth allwch chi ei wneud i atal cyddwysiad? 

Cadwch eich cartref wedi’i awyru’n dda  

  • Gadewch fentiau diferu ar agor ar ffenestri (os oes rhai gennych) er mwyn caniatáu cylchrediad cyson o awyr iach yn yr ystafelloedd byw.
  • Agorwch ffenestri’n rheolaidd.  Hyd yn oed yn ystod misoedd oer y gaeaf, bydd agor ffenestr ystafell wely am ddim ond 15–20 munud yn y bore yn caniatáu i unrhyw leithder sydd wedi cronni dros nos ddianc ac yn clirio unrhyw gyddwysiad.
  • Gadewch fwlch bach rhwng eich dodrefn a’r waliau allanol er mwyn caniatáu i aer gylchredeg.

 

Lleihau lleithder yn yr aer 

  • Rhowch gaeadau ar sosbenni wrth goginio i leihau stêm, a defnyddiwch ffannau echdynnu os oes gennych rai.
  • Cadwch ddrysau’r ystafell ymolchi ar gau wrth gael cawod a defnyddiwch ffannau echdynnu neu agorwch ffenestr.
  • Osgowch sychu dillad ar resel sychu neu ar reiddiadur. Os oes angen i chi sychu dillad dan do, caewch ddrws yr ystafell ymolchi a gwnewch yn siŵr bod eich ffan echdynnu yn gweithio fel bod unrhyw leithder yn cael ei dynnu o’r ystafell yn hytrach na chylchredeg o amgylch eich cartref.
  • Sychwch unrhyw gyddwysiad i ffwrdd cyn gynted ag y byddwch yn ei weld er mwyn atal llwydni rhag tyfu.

 

Cynhaliwch dymheredd cyson yn eich cartref 

  • Mae cartrefi oer yn fwy tebygol o ddatblygu cyddwysiad, felly ceisiwch gadw eich cartref yn gynnes yn gyson.
  • Mae gosod eich gwres i ddod ymlaen ar adegau rheolaidd am gyfnodau hirach yn fwy effeithiol na’i droi ymlaen ac i ffwrdd am gyfnodau byr drwy gydol y dydd.  Ceisiwch gynnal tymheredd cyson.
  • Os ydych chi’n gofidio am gost gwresogi eich cartref, cysylltwch â ni a gall ein Swyddogion Cymorth Tenantiaeth wirio eich bod yn cael yr holl gymorth sydd ar gael i chi.
  • Os oes mannau oer ar eich rheiddiaduron, efallai y bydd angen eu hawyru. Gallwch wneud hyn gydag allwedd rheiddiadur neu gallwch ein ffonio ni.

 

Peidiwch â gorlwytho eich cartref 

  • Ceisiwch beidio â llenwi ystafelloedd â dodrefn mawr.
  • Storiwch eich meddiannau mewn ffordd sy’n caniatáu i aer gylchredeg.
  • Oeddech chi’n gwybod y gall tanciau anifeiliaid anwes sydd â bylbiau gwres ychwanegu at y lleithder yn eich cartref?

 

Beth y gallwn ni ei wneud

Er bod llawer o achosion o lwydni yn cael eu hachosi gan gyddwysiad, mae adegau pan all strwythur eich cartref fod yn achosi problemau.

Er enghraifft:

  • cwteri a phibellau wedi torri
  • ffenestri neu ddrysau sydd wedi torri neu’n gadael drafftiau i mewn
  • inswleiddio annigonol
  • teils toeau wedi cracio neu ar goll
  • craciau yn y rendrad neu bwyntio sydd wedi dirywio
  • gall ffenestri neu ddrysau sydd wedi’u gosod yn wael greu pontio oer, sef mannau gwan mewn adeilad sy’n caniatáu i wres ddianc

 

Os byddwch yn rhoi gwybod i’n tîm atgyweirio am broblemau lleithder, llwydni neu gyddwysiad, byddant yn gofyn cyfres o gwestiynau er mwyn asesu beth y gellir ei wneud.  Yna gallant drefnu i Swyddog Rheoli Eiddo ac Ystadau (PEMO) archwilio’r broblem.

Os mai problem strwythurol sy’n achosi’r mater, gallwn drefnu i wneud yr atgyweiriadau angenrheidiol.

Yn ystod archwiliadau, gall PEMO roi thermomedrau cysur ystafell, lle mae pryderon ynghylch lefelau cysur preswylydd. Mae’r thermomedrau digidol hyn yn mesur tymheredd ystafell a lefelau cysur yr aer, ac yn dangos a yw ystafell yn rhy boeth neu’n rhy oer. Pan gânt eu gosod yn gywir mewn ystafell, i ffwrdd o ffenestri a rheiddiaduron, gallant eich helpu i gynnal amgylchedd iach yn eich cartref.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad gyda’r lluniau.