Skip to content
Datblygiadau newydd

Rydym yn adeiladu bron i 800 o gartrefi newydd ar draws Cymru

This content is password-protected. To view it, please enter the password below.

Gyda mwy o bobl angen cartref, rydym wrthi’n adeiladu amrywiaeth o gartrefi rhent fforddiadwy ar 15 safle ar draws Cymru. Mae’r rhain yn amrywio o fflatiau gofal ychwanegol i fflatiau yng nghanol dinasoedd a chartrefi teuluol mwy mewn lleoliadau gwledig.

De Cymru 

Mae 327 o gartrefi newydd wrthi’n cael eu hadeiladu. Mae hyn yn cynnwys dau gynllun gofal ychwanegol, un yn Myrtle Close, Penarth, a’r llall yng nghanol Aberhonddu.  ⁠ Pan fydd wedi’i gwblhau y flwyddyn nesaf, bydd Hafan y Dderwen, Penarth, yn darparu 70 o fflatiau hunangynhwysol i bobl 55 oed a throsodd.  Bydd 70 o fflatiau gofal ychwanegol pellach yn barod i groesawu preswylwyr yn Aberhonddu yn 2028.

Yng Nghaerdydd, rydym yn gweithio ar ddau ddatblygiad fflatiau gyda’n partneriaid adeiladu, BECT Ltd.  Y mwyaf yw datblygiad Heol Ddwyreiniol y Bont-faen, yng nghysgod Stadiwm Principality, lle mae’r sylfeini’n cael eu gosod ar gyfer 81 o fflatiau. Ar Heol Wedal, mae 23 o fflatiau un ystafell wely yn cael eu hadeiladu ar safle hen hostel ieuenctid.

Mae 12 cartref arall yn cael eu hadeiladu ar Stryd Pomeroy, Bae Caerdydd, ac mae 15 cartref newydd bron â chael eu cwblhau yn Heol y Pentir, Y Rhws.

1
Clos Y Stabl, Heol Sain Ffraid, Bro Morgannwg
1
Hafan y Dderwen, cynllun gofal ychwanegol, Penarth

Gorllewin Cymru 

Mae dros 160 o gartrefi newydd wrthi’n cael eu hadeiladu ar draws chwe safle.

Disgwylir i 32 o’r rhain gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn – 12 yn Angorfa, hen dafarn y Ship and Anchor yn Abergwaun, ac 20 yn Nhŵr y Graig, ein datblygiad newydd sy’n cael ei adeiladu ar safle hen Ysbyty Aberaeron yng Ngheredigion.

Mae gwaith yn mynd rhagddo’n dda yn Nerwen Deg, datblygiad o 48 o gartrefi ar safle hen Lidl yng Nghaerfyrddin, ac ar ddatblygiad o 51 o gartrefi ar Heol New Mill yn Aberteifi, a fydd yn cael ei adnabod fel Maes y Pererin pan fydd wedi’i gwblhau.

Dechreuodd y gwaith adeiladu yr haf hwn ym Maes Bodlondeb, lle mae 12 tŷ a chwe fflat yn cael eu hadeiladu gan Castlemead Group ar safle hen gartref gofal yn Aberystwyth.

⁠Ar safle hen Ysbyty Aberteifi, disgwylir i 20 o gartrefi newydd, swyddfeydd a chaffi cymunedol gael eu cwblhau yn 2029 yn dilyn dechrau’r gwaith adeiladu yn gynharach yr haf hwn.  Jamson Estates, cwmni lleol, yw’r prif gontractwr ar gyfer y prosiect, a fydd yn gweld Y Priordy  hanesyddol yn cael ei gadw fel rhan o’r datblygiad.

1
Bydd Y Priordy hanesyddol yn cael ei gadw fel rhan o’n datblygiad o 20 o gartrefi, swyddfeydd a chaffi cymunedol ar safle hen Ysbyty Aberteifi yng Ngheredigion.
1
Angorfa, Abergwaun
1
Safle hen Ysbyty Aberaeron, Ceredigion

Gogledd Cymru

Mae preswylwyr wedi bod yn ymgartrefu mewn mwy nag 80 o gartrefi sydd wedi’u cwblhau yng Ngogledd Cymru ers dechrau’r flwyddyn. 

Mae mwy na 100 o gartrefi newydd yn dal i gael eu hadeiladu yn y rhanbarth ar draws tri datblygiad – 31 o gartrefi ym Maes Ysgubor ym Modfari, a 28 o gartrefi yn The Roe yn Llanelwy, y ddau yn Sir Ddinbych, a 54 o gartrefi yng Nglan y Môr, ar Bay View Road ym Mae Colwyn, Conwy. Bydd pob un o’r cartrefi ar gael ar gyfer rhent cymdeithasol ac yn cael eu dyrannu drwy restrau aros tai’r awdurdodau lleol.

1
Glan y Môr, Bae Colwyn
1
Cwrt Pentwmpath, Wrecsam