Gwella ein gwasanaethau
Gwneud gwelliannau am y chwe mis nesaf
Rydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wella’r ffordd yr ydym yn rhedeg ein busnes er mwyn cynnig gwasanaethau gwell a mwy effeithlon i breswylwyr.
Ar draws y sefydliad, mae gennym restr o feysydd allweddol lle’r ydym yn dymuno gwneud gwelliannau, ar sail eich adborth chi, er mwyn cynnig gwerth am arian i breswylwyr, a chynnig sicrwydd iddynt bod eu cartrefi yn ddiogel, yn gynnes ac yn cael eu cynnal a’u cadw yn dda.
Y rhain yw ein blaenoriaethau busnes. Bob chwe mis, rydym yn cyhoeddi’r rhain fel rhan o’n Strategaeth Cynnwys Preswylwyr, fel y gallwch weld lle’r ydym yn bwriadu datblygu’r ffordd yr ydym yn rheoli eich cartrefi.
Meysydd allweddol
Gwella ein gwasanaethau trwsio
Mae Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria yn cwblhau tri o bob pedwar o’n tasgau trwsio dydd i ddydd ar eich cartrefi gan sicrhau lefel fodlonrwydd uchel. Caiff saith o bob deg tasg trwsio eu cwblhau y tro cyntaf, ond rydym yn gwybod ein bod yn gallu gwneud yn well.
Rydym yn ystyried sut y gallwn reoli’r gwaith yn well, fel bod gennym y sgiliau a’r adnoddau cywir i ddeall y gwaith y mae angen ei wneud, cwblhau gwaith yn fwy cyflym, a sicrhau na fydd angen dychwelyd i wneud unrhyw waith dilynol. Rydym wedi bod yn treialu gwahanol ffyrdd o weithio ar draws ein timau fel ei bod hi’n haws rhannu gwybodaeth a gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd gennym.
Yr hyn sy’n bwysig i chi yw bod eich gwaith trwsio yn cael ei wneud yn gyflym ac nad oes angen gwneud unrhyw waith dilynol. Rydym yn dymuno archwilio ffyrdd o reoli gwaith trwsio yn well er mwyn cyfuno apwyntiadau, er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau cynnal a chadw yn effeithlon.
Taliadau gwasanaeth
I rai preswylwyr mewn cynlluniau lle’r ydym yn darparu gwasanaethau cymunol, mae codi tâl teg am y gwasanaethau hynny yn bwysig. Gan ddibynnu lle’r ydych chi’n byw, efallai y bydd y taliadau hyn yn cynnwys gwaith garddio, glanhau, gwresogi, dŵr ac offer.
Yn ein Harolwg Bodlonrwydd Preswylwyr mwyaf diweddar, dywedodd canran uchel o breswylwyr wrthym eu bod yn credu bod eu rhent yn cynnig gwerth da. Fodd bynnag, roedd llai yn credu bod taliadau gwasanaeth yn cynnig gwerth am arian.
Er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau yn bodloni eich disgwyliadau, rydym yn adolygu’r ffordd yr ydym yn rheoli ein hystadau mewn ffordd fwy effeithlon er mwyn cadw’r taliadau hyn yn fforddiadwy. Mae ein prosiect bioamrywiaeth yn enghraifft o hyn. Ar ôl ymgynghori gyda phreswylwyr mewn rhai cynlluniau, rydym yn treialu gwahanol fathau o drefniadau torri porfa er mwyn caniatáu i fywyd gwyllt a phlanhigion ffynnu er mwyn gwneud defnydd mwy effeithlon o’n staff cynnal a chadw tir.
Diogelwch tân
Ein prif flaenoriaeth o hyd yw diogelwch ein cartrefi. Rydym yn ymfalchïo yn ein cofnod diogelwch. Rydym yn cynnal archwiliadau trylwyr a rheolaidd o’n cartrefi a’n cynlluniau, yn unol â’n cyfrifoldebau cyfreithiol, ond rydym wastad yn dymuno chwilio am ffyrdd o wella.
Rydym yn adolygu’r hyn yr ydym yn ei wneud i gadw preswylwyr yn ddiogel yn eu cartrefi, er mwyn cael darlun mwy cyflawn. Rydym yn dymuno sicrhau bod y wybodaeth y byddwn yn ei rhoi i chi yn glir, fel eich bod yn deall yr hyn y dylech chi ei wneud i gadw eich hun, eich teulu a’ch cymdogion yn ddiogel. Gallai hyn gynnwys y rhesymau pam bod storio sgwteri, beiciau, pramiau ac eitemau personol eraill mewn ardaloedd cymunol a gerllaw grisiau yn cael ei wahardd, a’r risgiau o wneud hyn. Mae drysau tân yn faes arall lle y gallwch ein helpu i’ch cadw yn ddiogel trwy sicrhau na fyddant yn cael eu difrodi neu’n cael eu newid, ac adrodd wrthym am unrhyw bryderon er mwyn i ni allu gweithredu. (dolen i stori am e-sgwter)
Taliadau gwresogi mewn cynlluniau cymunol
Caiff preswylwyr sy’n byw mewn nifer fach o gynlluniau sy’n cynnwys systemau gwresogi cymunol eu bilio yn unigol am eu cyfran nhw o’r bil gwresogi. Y term am hyn yw defnyddio mesuryddion gwres. Rydym yn ystyried ffyrdd o sicrhau bod ein systemau bilio yn fwy clir, fel y gall preswylwyr weld yr hyn y mae’r taliadau yn ei olygu, a chynnig cymorth i bobl agored i niwed. Rydym hefyd yn adolygu’r cwmnïau ynni yr ydym yn eu defnyddio er mwyn sicrhau ein bod yn cael gwerth am arian.
Teilwra gwasanaethau
Er mwyn gwneud gwelliannau, rydym yn gwrando ar yr hyn y mae preswylwyr yn ei ddweud wrthym ac yn gweithredu ar sail yr adborth hwnnw. Credwn mai siarad yw’r ffordd orau o wneud hyn. Mae pob aelod o staff yn arwain yn eu gwaith o ddydd i ddydd, ac rydym yn dymuno sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau i gael y sgyrsiau cywir gyda phreswylwyr a chydweithwyr. Bydd gwneud hyn yn golygu anfon mwy o reolwyr allan i’n cymunedau a gwrando ar yr hyn sy’n bwysig i’n preswylwyr.
Peidiwch ag anghofio, os ydych chi’n dymuno bod yn rhan o’r hyn a wnawn, neu gael y cyfle i ddweud eich dweud, mae sawl ffordd o wneud hyn.