Yr hyn i’w wneud gydag eitemau cartref swmpus
Bydd cynghorau lleol yn casglu eitemau cartref mawr, fel dodrefn, soffas, byrddau, gwelyau, dyfeisiau cegin ac eitemau trydanol mawr, a byddant yn codi ffi am wneud hynny. Gallwch drefnu hyn trwy gysylltu â’ch cyngor lleol ac archebu casgliad.
Mae’r costau yn amrywio o un awdurdod lleol i’r llall, ond yn gyffredinol, bydd y gost rhwng £15 a £65, gan ddibynnu ar nifer yr eitemau sydd gennych i’w casglu. Mae rhai ardaloedd yn cynnig cyfraddau is i bobl sy’n cael rhai budd-daliadau hefyd.
Ar ôl archebu’r gwasanaeth, bydd y cyngor yn gofyn i chi sicrhau bod yr eitemau yn cael eu rhoi wrth ymyl y ffordd yn barod i’w casglu ar ddyddiad penodol. Os disgwylir glaw, dylech ystyried gorchuddio eitemau fel soffas neu fatresi gyda gorchudd sy’n dal dŵr oherwydd y bydd y casglwyr yn gwrthod mynd â nhw efallai os byddant yn wlyb.