Yr hyn yr ydym yn ei wneud i gadw ein cymunedau yn lân
Gall ailgylchu fod yn broses ddryslyd. Mae gan bob awdurdod lleol wahanol systemau a gwnaethpwyd newidiadau i’r math o gasgliadau ac amlder y casgliadau mewn sawl ardal yn ddiweddar.
Mae ein staff tai yn gweithio’n galed mewn partneriaeth â phreswylwyr a swyddogion gwastraff awdurdodau lleol. Maent yn gweithio i esbonio i breswylwyr yr hyn y mae modd ei ailgylchu a’r hyn na ellir ei ailgylchu yn eu hardaloedd penodol, pa finiau neu fagiau i’w defnyddio a phryd i’w rhoi allan.
Dyma rai o’r pethau yr ydym yn gwneud:
- Rydym yn trefnu diwrnodau glanhau cymunedol, gan weithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol, er mwyn helpu i gadw ein cymunedau yn rhydd rhag sbwriel.
- Pan fyddwn yn bwriadu adeiladu cartrefi newydd, rydym wedi dechrau dwyn ein timau datblygu ac adrannau gwastraff cynghorau lleol ynghyd i gynllunio storfeydd biniau sy’n diwallu anghenion yr ardal honno.
- Gallwn wneud newidiadau ymarferol i storfeydd biniau yn ôl yr angen. Er enghraifft, mewn rhai ardaloedd fel Sir y Fflint, rydym wedi gweithio gydag adrannau gwastraff y cyngor i ddisodli biniau cymunol gyda storfeydd biniau unigol cloadwy, er mwyn nodi ardaloedd problemus unigol.
- Pan fyddwn yn nodi preswylwyr unigol sy’n achosi problemau yn rheolaidd, byddwn yn siarad â nhw yn gyntaf. Os bydd y problemau yn parhau, gallwn weithio gyda’r awdurdod lleol i gyhoeddi hysbysiad ar eu cyfer, a allai arwain at rybudd neu ddirwy.
- Mewn rhai achosion, gallwn osod camerâu CCTV mewn storfeydd biniau i gasglu tystiolaeth o bobl sy’n troseddu dro ar ôl tro. Os byddwn yn gweld trosedd yn cael ei chyflawni, byddwn yn trosglwyddo’r dystiolaeth i’r awdurdod perthnasol er mwyn iddynt allu erlyn.
- Mewn achosion tipio anghyfreithlon, os yw hyn ar dir cyhoeddus, byddwn yn adrodd i’r awdurdod lleol amdano er mwyn iddyn nhw allu ymchwilio iddo. Os bydd yn digwydd ar ein tir ni, rhaid i ni gyflogi cwmnïau gwastraff arbenigol i glirio’r ardal.
- Rydym yn gweithio gyda swyddogion gorfodi gwastraff yr awdurdod lleol sy’n erlyn troseddwyr os byddant yn gallu dod o hyd i dystiolaeth. Gallant gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig o £300 am dipio ar raddfa lai, a byddant yn erlyn achosion o dipio anghyfreithlon ar raddfa fawr trwy’r llysoedd, sy’n gallu arwain at ddedfryd o garchar neu ddirwyon mawr.