Skip to content
Straeon go iawn ar gyfer y dathliad 60 mlynedd

“Rydw i’n dwli byw yn Nhrelái. Mae fy nghymdogion fel teulu.”

Roedd Janine yn ddigartref ac yn byw mewn hostel i famau a babanod gyda’i mab chwe mis oed pan gynigiwyd cartref Tai Wales & West iddi ar ystad Hillfort yng Nghaerdydd. Roedd hynny 21 o flynyddoedd yn ôl.

Dywedodd: “Rydw i’n cofio y tro cyntaf y cerddais i mewn i’r tŷ, roedd un o’r ystafelloedd gwely wedi cael ei phaentio yn binc llachar fel palas tywysoges. Rhoddwyd talebion paent i mi er mwyn i mi ei hailaddurno ar gyfer fy mab.

“Roeddwn yn lwcus iawn. Roedd gan fy nghymydog faban yr un oedran a deuthum yn ffrindiau da. Nid oedd gennym unrhyw arian a byddem yn treulio ein hamser yn yr ardd gyda’n plant. Rydym yn gymdogion ac yn ffrindiau agos o hyd ac mae ein plant wedi tyfu i fyny gyda’i gilydd.”

Dros y blynyddoedd, mae Janine wedi dod yn rhan bwysig o’r gymuned lle y mae’n byw ac yn gweithio. Gyda’i chymdogion, mae hi wedi gwirfoddoli ei hamser gan drefnu gweithgareddau ac adloniant ar gyfer plant a’u rhieni ar yr ystad. Yn 2010, aethant ati i sefydlu Unity yn y gymuned, sef prosiect cymunedol i drefnu digwyddiadau am ddim.

“Roedd magu dau o blant ar fy mhen fy hun yn anodd,” dywedodd Janine, sy’n byw gyda’i dau mab sy’n 21 ac yn 17 oed.

“Pan oeddent yn fach, holais fy nghymdogion a oedd unrhyw beth i blant a mamau ei wneud, a’r ateb oedd na. Felly, cysylltom â Chymunedau yn Gyntaf ac roeddent wedi ariannu diwrnod hwyl i’r teulu.

“Hwn oedd y man cychwyn. Daeth rhai o’r mamau ynghyd, rhoddom gais i mewn i’r Loteri Genedlaethol a chawsom gyllid i gynnal gweithgareddau.

“Rydym wedi bod yn gwneud hyn ers 15 mlynedd. Mae ein plant ni wedi tyfu i fyny a mynd i’r brifysgol ac mae teuluoedd newydd yn mynychu ein digwyddiadau nawr.”

Mae gwirfoddolwyr Unity yn fwy hyderus nawr hefyd, ac mae eu gwasanaethau wedi esblygu i fodloni anghenion y gymuned, sy’n newid.

“Yn ystod y cyfnod clo, roedd teuluoedd yn ei chael hi’n anodd, felly agorom ein siop gymunedol,” esboniodd Janine.

Roedd Claire Hammond, Swyddog Strategaeth Cyfranogiad Preswylwyr TWW, wedi eu helpu i fanteisio ar sefydliadau ac archfarchnadoedd lle y gallent gasglu bwyd ac eitemau eraill er mwyn llenwi’r siop, fel y gall preswylwyr gael prydau rhad a’r eitemau y mae eu hangen arnynt. Roedd y Swyddog Datblygu Cymunedol ar gyfer yr ardal, Herman Valentin, wedi eu helpu i drefnu diwrnodau hwyl hefyd a gwneud cais am gyllid ar gyfer eu digwyddiadau.

1

“Roedd fy nheulu yn gofidio pan ddywedais wrthynt fy mod yn symud i Drelái. Ond nid ydw i fyth wedi teimlo mor ddiogel ag yr wyf yn ei deimlo yn byw yma. Mae’n lle hyfryd ac mae’n teimlo fel pentref. Mae’r gymuned yn gofalu am ei gilydd.”

“Mae staff Tai Wales & West wedi bod o gymorth mawr,” dywedodd Janine.

“Maent yn landlordiaid gwych. Maent wedi cael effaith enfawr arnaf i a’r gymuned lle’r ydym yn byw.

“Rydw i wedi cael cyfleoedd i fod yn rhan o’r Grŵp Llywio Cyfranogiad Preswylwyr ar gyfer preswylwyr TWW, ac rydw i wedi gwneud cyrsiau gyda TPAS. Mae wedi fy helpu i feithrin fy hyder.

“Rydw i’n dwli byw yn fy nhŷ Tai Wales & West yn Nhrelái. Mae’n gymuned wych. Mae fy nghymdogion fel teulu. Rydw i mor falch fy mod wedi ymgartrefu yma.”

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.