“Rydym wedi gweld cyfnodau hapus ac anodd.”
“Rydw i wir yn credu bod yn rhaid bod angel wedi bod yn gofalu amdanom, neu efallai mai Tai Wales & West yw’r angylion, oherwydd cynigiwyd tŷ newydd i ni.”
Dim ond 26 oed oedd Cheryl Litchfield-Payne pan symudodd i’w chartref ym Merthyr Tudful. Bellach, mae’n 60 oed, ac mae’n bwrw golwg yn ôl dros ei bywyd fel un o breswylwyr Tai Wales & West. Mae hi’n rhannu ei stori gydag In Touch.
“Treuliais ran fwyaf fy mywyd fel oedolyn yn byw mewn cartref Tai Wales & West yn Nhwyncarmel. Ganwyd fy merch yno; roeddwn wedi cyfarfod fy ngŵr yno a phriodi yno, a bûm yn gweithio fel athrawes yn y gymuned.
Rydym wedi gwneud cymaint fel teulu. Rydym wedi gweld cyfnodau hapus ac anodd ac mae staff Tai Wales & West wedi ein cynorthwyo ar hyd ein taith.
Symudais i fflat yn Nhwyncarmel ym 1991. Roedd hi’n brydferth yno, ac roedd gwir ymdeimlad o gymuned a chymdogion da.
Dyna lle y ganwyd fy merch Lauren ym 1996. Rydw i’n cofio fy holl gymdogion o hyd; roeddent i gyd mor dda i ni.
Gadawodd tad Lauren pan oeddwn i dri mis yn feichiog, ond bu fy nghymdogion fel modrybedd iddi. Byddai Betty, fy nghymydog, yn gofalu amdani pe bai’n rhaid i mi fynd allan. Byddai menywod eraill yn y bloc yn smwddio dillad i mi ac yn dod â bwyd i ni, a buont yn help aruthrol i mi fel mam sengl.”
Wrth i Lauren dyfu, symudom i dŷ gyda gardd, lle y buom yn byw am sawl blynedd. Ar y pryd, roeddwn yn gweithio fel athrawes sgiliau sylfaenol ar gyfer y cyngor lleol ac roedd Alison Chaplin, a oedd yn Swyddog Datblygu Cymunedol TWW ar y pryd, wedi gofyn i mi gynnal dosbarthiadau celf i blant yn swyddfa tai yr ystad. Cefais y pleser o ddysgu yno am sawl blwyddyn.
Pan ddaeth tŷ ar gael mewn stryd dawelach, ymgeisiais, a symudom unwaith eto. Dyna lle’r oeddwn yn byw pan oeddwn wedi cyfarfod fy ngŵr, Neil, yn 2011.
Priodom dair blynedd yn ddiweddarach. Ar ddiwrnod fy mhriodas, teithiais o’m tŷ i’r swyddfa gofrestru mewn cerbyd gwersylla ac roedd fy nghymdogion yno i’m gwylio yn mynd.
Ar ôl i ni briodi, gadewais y proffesiwn addysgu a phenderfynais fod yn arlunydd hunangyflogedig, gan werthu fy mhaentiadau ar-lein.
Pan gafodd Lauren ei phen-blwydd yn 18 oed, gadawodd yr ysgol ar ôl cwblhau ei chyrsiau Lefel A a dechreuodd fynychu cwrs celf mewn coleg.
Bu hwn yn gyfnod anodd i’n teulu. Roedd Lauren wedi bod yn ei chael hi’n anodd ym myd addysg; nid oedd hi’n teimlo ei bod hi’n perthyn. Aeth popeth yn ormod iddi a cheisiodd gyflawni hunanladdiad.
“Hwn oedd y cyfnod gwaethaf yn fy mywyd.”
Bu Tai Wales & West yn gefnogol iawn gan wneud yr hyn y gallent ei wneud i’n helpu. Roeddent wedi ein helpu i chwilio am gyrsiau y gallai Lauren eu dilyn er mwyn canolbwyntio ar ei gwaith celf gartref.
Os oedd Lauren yn mynd i ymdopi a byw ei bywyd, sylweddolom bod angen i ni ddechrau o’r newydd.
Clywom bod tai yn Y Gelli, a oedd yn berffaith gan bod Neil yn gweithio yn yr ardal honno.
Rydw i wir yn credu bod angylion wedi bod yn gofalu amdanom, neu efallai mai Tai Wales & West yw’r angylion, oherwydd cynigiwyd tŷ newydd i ni.
Ym mis Ionawr 2018, symudom am y tro olaf i’r Gelli. Hwn yw’r peth gorau yr ydym fyth wedi ei wneud. Mae bywyd gymaint gwell i Lauren nawr.
Cafodd ddiagnosis awtistiaeth yn 2020, pan oedd hi’n 24 oed, ac mae’r diagnosis wedi ei helpu i setlo.
Bellach, mae ganddi fywyd llawn ac mae wedi cael ei chroesawu gan y dref a’r bobl leol. Mae hi wedi gwneud ffrindiau ac mae’n adnabyddus ymhlith y bobl leol am fynd â’i chrwban, Cookie, am dro o gwmpas y dref. Bydd pobl yn stopio i siarad gyda hi pan fydd hi allan yn cerdded gyda Cookie, ac mae hi’n llawer hapusach.