Dau gynllun gofal ychwanegol i Dde Cymru
Mae dros 200 o gartrefi newydd yn cael eu datblygu ar draws De Cymru, gan gynnwys dau gynllun gofal ychwanegol.
Ym Mhenarth, mae’r sylfeini wedi cael eu gosod ac mae’r fframwaith yn cael ei adeiladu yn Hafan Y Dderwen (yn y llun). Mae’r cynllun £20m wrth ymyl ein cynllun tai presennol i bobl hŷn yng Nghwrt Oak, Myrtle Close. Hwn fydd ein cynllun gofal ychwanegol cyntaf yn Ne Cymru a bydd yn cynnig 70 o fflatiau hunan-gynhwysol i bobl hŷn sydd ag anghenion gofal a chymorth.
Adeiladir Hafan Y Dderwen mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cyngor Bro Morgannwg a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a’r Fro, a disgwylir iddo fod yn barod i groesawu preswylwyr tua diwedd 2026/dechrau 2027.
Mae ein partneriaid adeiladu hirdymor, Hale Group Limited, yn adeiladu’r cynllun. Maent hefyd yn gweithio ar ail gynllun gofal ychwanegol yng nghanol Aberhonddu.
Y llynedd, cawsom ganiatâd cynllunio gan awdurdod Cynllunio Bannau Brycheiniog i adeiladu’r cynllun gofal ychwanegol gyda 66 o fflatiau ar hen safle gwerthu ceir Roy Hatton yn Stryd Free.
Mae’r gwaith dymchwel wedi cael ei gwblhau a bydd y gwaith yn cychwyn yn fuan i osod y sylfeini. Disgwylir i’r datblygiad fod yn barod i’r preswylwyr symud i mewn erbyn 2028.
Mae’r datblygiadau hyn ymhlith 211 sy’n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd ar draws De Cymru, gan gynnwys 17 o dai, fflatiau a byngalos rhent fforddiadwy newydd yn Ffordd St Bride’s, Y Wig a 18 o dai a fflatiau yn Heol Y Pentir, Y Rhws.