Skip to content
Caru lle’r ydych yn byw

Pethau y gallwch chi eu gwneud i ofalu am eich cymuned

Dyma rai pethau y gall preswylwyr eu gwneud i gadw’r ardaloedd o gwmpas eu cartrefi yn rhydd rhag sbwriel.

  • Sicrhau eich bod yn rhoi eich gwastraff yn y bin cywir fel na fydd croes-halogi yn digwydd. Os nad ydych yn siŵr beth sy’n mynd ble, a phryd y dylech ei roi allan, holwch eich Swyddogion Rheoli Eiddo ac Ystad neu Tai TWW, a fydd yn hapus i helpu.
  • Os bydd y biniau yn eich cynllun yn llawn, peidiwch â gadael eich gwastraff ar y llawr oherwydd ni fydd yn cael ei gasglu. Gallech fynd ag ef yn ôl gartref a’i roi allan yn gynnar am y casgliad nesaf pan fydd y biniau yn fwy gwag.
  • Dylech osgoi rhoi eitemau cartref swmpus allan gyda gwastraff y cartref neu mewn storfeydd biniau oherwydd ni fyddant yn cael eu casglu oni bai eich bod wedi trefnu casgliad penodol gyda’r awdurdod lleol.
  • Os byddwch wedi trefnu rhoi eitemau swmpus allan i gael eu casglu, dylech sicrhau eu bod yn y lle cywir ar y diwrnod cywir, ac nad ydynt yn wlyb.
  • Neu, os yw eich eitemau mawr mewn cyflwr da ac mae modd eu hailddefnyddio, gallech roi cynnig ar eu rhoi i elusen. Gall rhai elusennau gasglu ac ail-werthu eitemau. Gallech gynnig yr eitemau i deulu neu ffrindiau hefyd, neu eu rhoi i ffwrdd ar farchnadleoedd ar-lein lleol.

 

Gwirio pwy sy’n cymryd eich gwastraff

Efallai na fyddwch yn mynd ati i dipio’n anghyfreithlon; ond os byddwch yn rhoi eich gwastraff i gludwr gwastraff anghofrestredig yr ydych wedi dod o hyd iddynt ar-lein efallai, ac os byddant yn ei dipio yn anghyfreithlon – efallai mai chi fydd yn cael dirwy o £300 a chofnod troseddol.

Mae Taclo Tipio Cymru yn dweud bod gan bawb ddyletswydd gofal gyfreithiol i sicrhau bod eu gwastraff yn cael ei waredu mewn ffordd gyfreithlon a chyfrifol. Mae’n cynghori aelwydydd i wirio bod unigolyn neu gwmni yn gludwr gwastraff trwyddedig ac yn meddu ar drwydded gofrestredig cyn eu talu i waredu gwastraff o’ch cartref. Dim ond pobl neu gwmnïau trwyddedig sy’n cael casglu a chludo gwastraff pobl arall fel busnes yn ôl y gyfraith.

Os allwch wneud hynny, dylech osgoi talu pobl gan ddefnyddio arian parod, a dylech ofyn am dderbynneb. Dylech gofnodi manylion y cerbyd (h.y. cynhyrchwr car a rhif cofrestru).

Gallwch wirio a yw’r unigolyn yr ydych yn eu defnyddio yn gofrestredig ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

1
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.