Skip to content
Materion ariannol

Cynilo arian ar gyfer y Nadolig

 

 

Efallai bod y Nadolig yn teimlo gryn amser i ffwrdd, ond gydag arian a chyllidebu, gallai cynilo rhyw ychydig nawr fod o help mawr yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Mae Moneyworks Cymru yn un ffordd o gynilo ar gyfer yr ŵyl, gan osgoi’r pwysau i wario a mynd i ddyled.

Mae’n sefydliad nid-er-elw, a ariannir gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnig cyswllt i undebau credyd er mwyn eich helpu i fenthyca a chynilo.

Os ydych chi’n gweithio, ac mae’r cwmni yr ydych chi’n gweithio iddo yn rhan o Moneyworks Cymru, gallwch wneud cais am Gyfrif Cynilo Nadolig. Caiff cyfraniadau eu cymryd o’ch cyflog a byddant yn cael eu trosglwyddo i gyfrif Undeb Credyd, a’u cadw yno yn ddiogel fel na fyddwch yn cael eich temtio i wario’r arian cyn hynny.

Os nad ydych chi’n gweithio, gallwch agor cyfrif gyda’ch Undeb Credyd lleol. Mae Undebau Credyd yn gwmnïau cydweithredol ariannol nad ydynt yn gwneud elw. Maent yn berchen i’w haelodau – y bobl sy’n eu defnyddio – a bydd unrhyw arian y byddant yn ei wneud yn cael ei wario ar helpu aelodau a’r gymuned leol.

I gael gwybod mwy ac i ddechrau cynilo ar unwaith, trowch at Money Works Cymru neu Undebau Credyd Cymru.

1
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.