Skip to content
Newyddion

Pethau i’w gwneud am ddim yn ystod gwyliau’r haf

 

 

Hwyl am ddim i deuluoedd yng Nghymru yr haf hwn!

Gyda’r gwyliau haf ar y gorwel, mae aelwydydd ar draws Cymru yn chwilio am bethau rhad neu bethau am ddim i’w gwneud gyda’r teulu. Dyma rai syniadau am fannau i ymweld â nhw a phethau i’w gwneud.

Archwilio’r byd y tu allan

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Ewch ar ymweliad â Bannau Brycheiniog i gael bod yn agos i fyd natur. Mae’r parc yn lle gwych i gael picnic ac ymlacio yng nghysgod mynydd uchaf De Cymru, Pen Y Fan. Os ydych chi’n teimlo’n heini, gallech gerdded rhai o’r llwybrau niferus. Mae hefyd yn lle gwych i roi cynnig ar geogelcio. Gyda geogelciau wedi’u cuddio ar draws y parc, mae’n lle da i blant fod yn egnïol ac mae’n lle da i ddiddanu plant.

Llwybr Arfordir Cymru

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn dros 870 o filltiroedd ac mae’n berffaith er mwyn mynd am dro fel teulu a gwylio bywyd gwyllt. Ymhlith yr uchafbwyntiau, ceir Ynys Llanddwyn ar Ynys Môn, man hudolus sy’n teimlo fel rhywle llawn lledrith, neu Lwybr Arfordir Sir Benfro, yr unig barc arfordirol yn y DU, sy’n cynnwys rhai o draethau prydferthaf Cymru.

Os ydych chi’n bwriadu mynd am dro gyda’r teulu, dyma ychydig gyngor i’ch cadw’n ddiogel. Sicrhewch eich bod yn gwisgo esgidiau addas i gerdded, gan wisgo haenau. Cynlluniwch eich taith cyn i chi gychwyn. Edrychwch ar ragolygon y tywydd ac ewch â digon o ddŵr, byrbrydau a map gyda chi. A chofiwch peidio â gwthio eich hun, ewch ar gyflymdra sy’n teimlo’n gyffyrddus. Wedi’r cyfan, rydych chi’n dymuno mwynhau eich diwrnod allan!

1
1

Anturiaethau hanesyddol

Castell Dryslwyn

Archwiliwch adfeilion Castell Dryslwyn yn Sir Gaerfyrddin. Mae hon yn berl llai adnabyddus, sy’n cynnig golygfeydd godidog o Ddyffryn Tywi ac mae’n lle gwych i fwynhau picnic fel teulu.

Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru

Manteisiwch ar fynediad am ddim i Amgueddfeydd Cenedlaethol Cymru. O’r Amgueddfa Genedlaethol i’r Amgueddfa Hanes Genedlaethol yng Nghaerdydd, mae rhywbeth i bawb. Ni chodir tâl mynediad i’r Amgueddfa Genedlaethol, ond codir tâl am barcio ac i weld rhai arddangosiadau, digwyddiadau a gweithgareddau.

 

1

Gwyliau a digwyddiadau

Gŵyl Caws Mawr

Ewch i Gaerffili i’r Ŵyl Caws Mawr ar 30 a 31 Awst i fwynhau penwythnos o ail-greu golygfeydd canoloesol, cerddoriaeth fyw ac, wrth gwrs, i flasu caws! Nifer fawr o stondinau, cerddoriaeth ac adloniant. Peidiwch ag anghofio y Ras Gaws, y gallwch gymryd rhan ynddi am ddim.

Gŵyl Jazz Aberhonddu

Bydd Aberhonddu yn fwrlwm o weithgarwch ar 8-10 Awst ar gyfer yr ŵyl jazz fyd-enwog. Er bod gofyn prynu tocyn ar gyfer nifer o’r cyngherddau, cynhelir amrywiaeth o ddigwyddiadau am ddim hefyd, sy’n ei wneud yn ddewis hygyrch i deuluoedd sy’n dymuno mwynhau cerddoriaeth fyw heb wario ffortiwn.

Profiadau unigryw

Gwylio dolffiniaid ym Mae Ceredigion

Er y gallwch dalu i fynd allan ar y môr mewn cwch, gallwch wylio dolffiniaid, llamhidyddion a morloi o ben y clogwyni ym Mae Ceredigion. Rhai o’r mannau poblogaidd yw Mwnt a Cheinewydd yng Ngheredigion. Mae’n brofiad hudolus y bydd plant yn ei gofio am flynyddoedd.

Parc Gwledig Margam

Bu’r parc hwn yn gartref i Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai, ac mae’n safle prydferth sy’n cynnwys castell, gerddi addurnol a pharc ceirw. Ni chodir tâl mynediad ond codir £8.50 y dydd am barcio yno, ac efallai y codir tâl mynediad i fynychu digwyddiadau arbennig.

Cyngor er mwyn mwynhau haf rhesymol

  • Byddwch yn glyfar wrth deithio: manteisiwch ar gynigion teithio am ddim i blant yng nghwmni oedolyn ar drenau Trafnidiaeth Cymru. Gall hyn wneud teithiau undydd yn fwy fforddiadwy a chyfleus.
  • Paciwch bicnic: mae nifer o’r atyniadau hyn yn berffaith er mwyn mwynhau picnic fel teulu. Dewch â’ch bwyd eich hun i arbed arian a mwynhau pryd o fwyd gyda golygfa.
  • Cynlluniwch ymlaen llaw: efallai y bydd gofyn archebu lle mewn rhai digwyddiadau a gweithgareddau ymlaen llaw, hyd yn oed os ydynt ar gael am ddim. Trowch at wefannau digwyddiadau am fanylion er mwyn sicrhau na fyddwch yn colli allan.

Gyda chymaint o weithgareddau a digwyddiadau am ddim, ewch ati i archwilio!

Am ragor o syniadau, trowch at:

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.