Peidiwch â chaniatáu twyllwyr i mewn i’ch bywyd
Un o’r sgamiau mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar ein cymunedau yn ddiweddar yw twyll cludwyr. Bydd pobl yn cael eu targedu gan dwyllwyr sy’n galw ac sy’n esgus eu bod yn gweithio i’r heddlu, i fanc neu sefydliad swyddogol arall. Byddant yn dweud bod achos o dwyll yn eich cyfrif, gan drefnu bod cludwr yn dod i gasglu arian, cardiau banc neu’r ddau o’ch cartref.
Efallai y byddant yn gofyn am fanylion hefyd fel eich rhif PIN dros y ffôn, cyn y bydd cludwr yn casglu eich cardiau banc neu gredyd.
Fel rhan o’r sgam, efallai y byddant yn rhoi straeon ffug i chi neu’n dweud bod eich cyfrif mewn perygl os na fyddwch yn gweithredu’n gyflym.
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd rhybudd gan Heddlu De Cymru, sydd wedi cael adroddiadau am yr achosion hyn o dwyll. Maent yn dweud, “bydd twyllwyr sy’n cyflawni’r sgamiau hyn yn aml yn ddarbwyllol iawn, a byddant yn cyfleu yr hyn sy’n ymddangos fel straeon dilys.
“Rydym yn parhau i gael adroddiadau am y sgam hon. Felly, os gwelwch yn dda, os oes gennych chi berthnasau hŷn neu agored i niwed, a fyddech gystal â siarad â nhw. Helpwch nhw i fod ar eu gwyliadwriaeth yn erbyn twyllwyr.”
Cofiwch:
- ni fydd eich banc neu’r heddlu fyth yn eich ffonio ac yn gofyn am eich manylion personol neu rif PIN eich cerdyn. Os byddwch yn cael galwad fel hyn, gorffennwch yr alwad a ffoniwch eich banc gan ddefnyddio eu rhif ffôn swyddogol nhw i wirio hyn.
- ni fydd eich banc neu’r heddlu fyth yn anfon cludwr i’ch cartref i gasglu arian, cardiau banc neu’r ddau.
Beth i’w wneud os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef sgâm
Ffoniwch eich banc yn syth i ganslo eich cerdyn os ydych chi wedi’i roi i unrhyw un neu wedi rhannu manylion eich banc.
Rhowch wybod am dwyll i Action Fraud ar-lein neu ffoniwch 0300 123 2040.