Peidiwch â chaniatáu i dipio anghyfreithlon ddifetha lle’r ydych yn byw
Mae tipio anghyfreithlon yn parhau i fod yn broblem enfawr ar draws ein cymunedau ac ar draws Cymru gyfan.
Mae’r ffigurau diweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn dangos y bu dros 40,000 achos o dipio anghyfreithlon yn ystod 2023. Daw dwy rhan o dair o’r gwastraff hwnnw o aelwydydd.
Mae’n costio cannoedd ar filoedd o bunnoedd y flwyddyn i glirio gwastraff a gaiff ei dipio yn anghyfreithlon ar draws ein cymunedau, gan bod yn rhaid i ni dalu cwmnïau gwastraff arbenigol i’w waredu.
Byddai modd gwario’r arian hwnnw ar wella eich cartrefi.
Ar draws ein cymunedau, ceir nifer o fannau amlwg lle y byddwn yn gweld sbwriel yn cael ei adael yn rheolaidd.
“Mae tipio anghyfreithlon yn broblem fawr, ac mae’n ymddangos ei bod yn gwaethygu.” dywedodd Pennaeth Tai WWH, Phil Carroll.
“Nid yn unig y mae’n edrych yn ofnadwy, ond os yw’n cynnwys gwastraff cartref, bydd yn denu llygod mawr a phlâu a fermin eraill.
“Mae sbwriel yn creu sbwriel. Fel yr ydym wedi gweld yn y newyddion yn ddiweddar gyda’r streiciau biniau mewn rhannau eraill o’r DU, pan fo gwastraff yn cael ei adael allan, bydd eraill yn ychwanegu iddo a bydd yn datblygu i fod yn broblem fwy fyth.
“Mae gennym broblemau hefyd lle y mae pobl yn credu eu bod yn gwneud y peth iawn trwy fynd â’u sbwriel i lawr i’r storfeydd biniau.” dywedodd Phil. “Ond os byddant yn rhoi’r eitemau anghywir yn y biniau ailgylchu anghywir, caiff ei ddosbarthu fel deunydd croes-halogi ac ni fydd yn cael ei gasglu. Mae hynny yn ychwanegu i’r problemau gwastraff.
“Mae rhan fwyaf ein preswylwyr yn gwneud y peth iawn, ond mae rhai yn creu problem i bawb.”
Beth yw gwastraff halogedig
Mae gwastraff halogedig yn derm sy’n cyfeirio at wastraff peryglus a gwenwynig fel arfer. Ond o ran ailgylchu yn y cartref, mae’n golygu sbwriel sydd wedi cael ei roi allan i’w ailgylchu – ond yn y lle anghywir.
Er enghraifft, os rhoddir plastigion meddal yn y bin ar gyfer papur neu os rhoddir alwminiwm yn y cynhwysydd sy’n dal gwydr, ni fydd timau gwastraff yr awdurdod lleol yn ei gasglu. Byddant yn ystyried ei fod yn halogedig a byddant yn ei adael, gyda nodyn rhybudd weithiau.