Skip to content
Newyddion preswylwyr

Newyddion o gwmpas ein cynlluniau

Abergwaun yn ei blodau

Mae preswylwyr yn Abergwaun yn ymddiddori mewn garddio unwaith eto ers i’r ardaloedd cymunol y tu allan i’w cynllun gael eu huwchraddio.

Dan y gwelliannau yng nghynllun pobl hŷn Llain Las (yn y llun), plannwyd coed ffrwythau, heuwyd hadau blodau gwyllt a gosodwyd gwelyau uwch newydd, sy’n haws i breswylwyr hŷn eu defnyddio ac sy’n eu galluogi i dreulio mwy o amser yn cymdeithasu y tu allan.

Dywedodd un preswylydd: “Mae’r gwelyau uwch wedi gwneud cymaint o wahaniaeth i mi. Nid oeddwn yn gallu plygu i lawr oherwydd fy symudedd. Mae’r gwelyau newydd hyn yn hygyrch, a gallaf arddio wrth eistedd gyda fy ffrâm gerdded.”

Dywedodd preswylydd arall: “Roeddwn yn arfer garddio gryn dipyn pan oedd gennyf fy lle fy hun, ac rydw i wedi gweld eisiau hynny. Rydw i’n mwynhau treulio amser y tu allan gan ei fod yn fy nghadw yn egnïol.”

Ariannwyd y prosiect gan Bartneriaeth Natur Leol Sir Benfro ac mae’r preswylwyr yn dweud eu bod yn edrych ymlaen i weld yr ardal blodau gwyllt yn datblygu a’r coed yn blodeuo.

1
1

Agor drws i’r byd ar-lein i breswylwyr hŷn

O fancio i siopa, rheoli presgripsiynau a gwneud apwyntiadau meddyg, yn y byd digidol sydd ohoni, ar-lein yw’r lle i fod os ydych chi’n dymuno cadw mewn cysylltiad.

Gall y rhyngrwyd fod yn rhywbeth brawychus i nifer o breswylwyr hŷn. Fodd bynnag, mae preswylwyr yng Ngorllewin Cymru wedi bod yn cael ychydig help, diolch i brosiect digidol a gynhaliwyd gan Age Cymru.

Bu gweithwyr o Age Cymru Dyfed yn ymweld â’n cynlluniau i bobl hŷn yn Llain Las, Abergwaun ac yn Llys Owen, Aberteifi, i gynnal sesiynau digidol ar gyfer preswylwyr.

Roeddent yno i helpu preswylwyr i greu cyfrineiriau, cau hen gyfrifon e-bost a throi at ddogfennau ar-lein pwysig fel yswiriant. Roeddent hefyd wedi cynnig cymorth i rai preswylwyr a oedd yn dymuno prynu a gosod dyfeisiau newydd, ac roeddent wedi dangos iddynt sut i newid gosodiadau i gynyddu maint y testun ar eu sgriniau.

Darganfod mwy am brosiect cynhwysiant digidol Age UK.

1

Dathlu Diwrnod VE – 80 mlynedd yn ddiweddarach

Bu cymunedau ar draws y wlad yn dathlu 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Rhyfel Byd.

Cynhaliwyd Diwrnod VE ar ddydd Iau 8 Mai. Roedd ein preswylwyr wedi ymuno yn y dathliadau gyda’u partïon eu hunain.

Yng Nghwrt St Catherine, Caerffili, aeth y preswylwyr ati i osod baneri a chynnal dathliad ar gyfer yr holl breswylwyr. Trefnwyd y parti gan Jacqui a Debra.

1

Yn Llwyn Alun, penderfynodd y preswylwyr ddefnyddio’r elw a wnaethpwyd mewn arwerthiant pen bwrdd i gynnal eu parti diwrnod VE eu hunain – lle y cawsant ymweliad gan un o sêr rhaglen Britain’s Got Talent (BGT) eleni.

Roedd dros 30 o aelodau teuluol a ffrindiau wedi ymuno â phrynhawn a noson o ddathliadau ar yr ystad yn Yr Hôb, Sir y Fflint.

Chwifiwyd baneri yn y stryd a chafwyd cestyll neidio, gemau mawr, paentio wynebau, cerddoriaeth a bwyd i lenwi’r prynhawn.

Cafwyd ymddangosiad annisgwyl a pherfformiad byw gan Guitar Ollie, a orffennodd yn bedwerydd yn BGT 2025.

Trefnwyd y parti gan Tracy a Colin, ar y cyd â Dawn, Lisa, Vicky, Gordon ac Anna, cyd breswylwyr.

Dywedodd Tracy: “Roedd yn ddiwrnod gwych. Gwahoddwyd y stryd gyfan ac roedd niferoedd da wedi mynychu. Mae nifer fawr ohonom yn treulio amser y tu allan gyda’n gilydd yn ystod yr haf, felly roeddem wedi dechrau meddwl am gynnal parti stryd. Roeddwn yn gwylio rhaglen deledu am ddiwrnod VE, a chefais y syniad o’r fan honno.”

1

Gwobr genedlaethol i famau yn Aberteifi

Mae grŵp o rieni, a sefydlodd grŵp gwirfoddol i gynllunio gweithgareddau hwyliog i deuluoedd lle y maent yn byw, wedi cael eu gwobrwyo am eu gwaith caled.

Daeth y grŵp ynghyd gan sicrhau cyllid i gynnal diwrnodau hwyl a gweithgareddau am ddim yn eu parc lleol ym Mhentop, Aberteifi.

Mae dros 100 o blant a 40 o rieni wedi cael budd o’r digwyddiadau, sydd wedi cynnwys diwrnodau hwyl yn ystod yr haf, helfeydd wyau Pasg a phartïon Calan Gaeaf a Nadolig.

Ym mis Mehefin, enillont gategori Cymunedau yn Cefnogi Cymunedau yng Ngwobrau Arfer Da TPAS Cymru.

Llongyfarchiadau i bawb a fu ynghlwm. Dywedwyd bod y diwrnodau hwyl yn “achubiaeth” i breswylwyr sy’n byw ar yr ystad.

1

Hwyl y Pasg yng Ngorllewin Cymru 

Cymerodd plant yng Ngwar y Garth, Penrhyn-coch, ger Aberystwyth, ran mewn gweithgareddau Pasg yn y cynllun.  

Tra bod y plant yn paentio ac yn hela am wyau Pasg, cafodd eu rhieni baned a sgwrs gyda’u swyddogion tai.  

Symudodd y teuluoedd i’w cartrefi newydd ar gyrion Aberystwyth ar ddechrau’r flwyddyn. 

 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.