Gwaith crefft yn helpu iechyd meddwl
“Roeddwn mewn tipyn o stad. Yn SiedCardi, deuthum ar draws pobl o natur debyg yn gwneud gwaith crefft. Deuthum ar draws brawdoliaeth.”
Adrian, preswylwyr TWW.
Mewn byd lle y mae technoleg yn teyrnasu, mae’n hawdd ymgolli yn straen a gofid bywyd bob dydd.
Ond mae neilltuo amser i oedi a chanolbwyntio ar grefft creadigol yn gallu cynnig manteision gwych i’ch cyflwr meddyliol. Holwch unrhyw un sydd wedi ymgymryd â gweithgareddau fel paentio, gwaith coed, gwau neu gerflunio.
Yn Aberteifi, mae un sefydliad a gaiff ei redeg gan wirfoddolwyr yn gwneud hynny. Bob wythnos, mae SiedCardi yn cynnig lle creadigol a llonyddol i bobl leol.
Sefydlwyd y prosiect yn wreiddiol fel man lle y gallai dynion ddod ynghyd i rannu eu teimladau a’u pryderon mewn amgylchedd cefnogol heb unrhyw un yn barnu. Fe’i cychwynnwyd mewn ymateb i’r niferoedd uchel oedd yn cyflawni hunanladdiad yn Aberteifi, y mae’n parhau i fod yn un o’r cyfraddau uchaf yn y DU.
Yn ystod y bedair blynedd ers i SiedCardi agor, mae’r gweithdy wedi tyfu ac erbyn hyn, mae tua 90 o bobl, yn ddynion, yn fenywod ac yn bobl ifanc, yn ymweld yn rheolaidd er mwyn rhoi cynnig ar waith coed a thurnio.
Mae rhai o’r aelodau wedi ymddeol, caiff rhai eu hatgyfeirio gan wasanaethau iechyd meddwl ac mae eraill yn awyddus i wneud ffrindiau a dysgu crefft newydd.
Mae Adrian yn un o breswylwyr TWW ac yn un o’r sylfaenwyr, ac mae’n gwirfoddoli ar y pwyllgor. Roedd wedi astudio gwneud dodrefn pan oedd yn iau ac mae wastad wedi ymddiddori mewn gwaith coed a phren.
Dywedodd: “Y tro cyntaf i mi fynd i SiedCardi, roeddwn yn cael anhawster gyda fy iechyd meddwl ac roedd fy mhroblemau gydag alcohol a chyffuriau yn gwneud y sefyllfa hon yn waeth.”
Roeddwn mewn tipyn o stad. Yn SiedCardi, deuthum ar draws pobl o natur debyg yn gwneud gwaith crefft. Deuthum ar draws brawdoliaeth.
“Ers bod yn rhan o’r “Sied”, mae fy mywyd wedi newid er gwell ac mae’r dyfodol yn llawer mwy gobeithiol.
“Mae’n ymwneud â’r llawenydd syml o fod yn yr eiliad,” dywedodd Adrian, sy’n gweithio fel garddwr a thasgmon.
“Pan fyddwch yn dechrau troi darn o bren gwyrdd neu’n creu darn o ddodrefn, byddwch yn cael eich tywys i fan meddyliol arall. Hwn yw’r unig beth y byddwch yn meddwl amdano. Mae eich meddwl yn canolbwyntio ar y pren a’r hyn yr ydych yn ei greu yn llwyr. Mae’n lle da i fod.
“Weithiau, gofynnir i ni wneud pethau ar gyfer y gymuned. Er enghraifft, gwnaethom ddwy fainc bren ar gyfer lle chwarae Pentop yng Ngolwg Y Castell yn Aberteifi.
“Pan fyddwch yn gweld rhywbeth yr ydych chi wedi’i wneud yn cael ei ddefnyddio yn y gymuned, mae’n gwneud i chi deimlo’n falch.”
Gyda’r cynnydd yn nifer y bobl sy’n defnyddio’r cyfleusterau gwaith coed yng ngweithdy SiedCardi, roedd angen i’r trefnwyr godi arian i wella mesurau iechyd a diogelwch. Penderfynont droi at TWW, a gydag un o’n contractwyr, CJS Electrical, rhoddom nawdd i ddiweddaru’r system echdynnu llwch, y gwaith trydanol a’r mesurau diogelwch tân yn y gweithdy.
Dywedodd Matt, cydlynydd SiedCardi: “Mae’r cymorth wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’r gwasanaeth yr ydym yn ei gynnig. Rydym wedi gweld cynnydd cyflym yn y cyfraddau cyfranogi yn SiedCardi dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r cyllid hwn wedi ein galluogi i wneud gwelliannau i’n gweithdai fel ein bod yn cynnig amgylchedd gwaith diogel i’r holl gyfranogwyr nawr.”
“Bellach, mae gennym siop peiriannau gwaith coed sy’n lân, yn ddiogel ac yn hygyrch.”