Skip to content
Newyddion preswylwyr 

Eich partïon 60 mlynedd

Mae preswylwyr ar hyd a lled Cymru wedi bod yn ymuno â’n dathliadau pen-blwydd yn 60 trwy gynnal partïon cymunedol yn eu cynlluniau.

Rydym wedi cael dwsinau o geisiadau gan grwpiau sy’n awyddus i fanteisio ar ein grantiau er mwyn helpu i ddwyn pobl ynghyd i ddathlu.

Yng Nghwrt Newlands, Caerdydd, trefnodd Sue ac Edith, sy’n gymdogion, barti hwyliog i bawb. Ac i’r rhai nad oeddent yn gallu mynychu, dosbarthwyd platiau o fwyd i’w cartrefi. “Roedd pawb wedi cael amser hyfryd. Diolch i chi am sicrhau bod hyn yn bosibl,” dywedodd Sue.

Cynigiwyd llwncdestun gan breswylwyr Cwrt St Clements, Caerdydd, yn ystod eu parti ym mis Ebrill. Roeddent oll wedi mwynhau bwyd cartref a goginiwyd gan Janet, gyda chymorth ei merch a’i chymydog, Dawn. Roedd preswylydd arall, Christine, wedi gwneud cais am grant ar gyfer y parti gan y cynllun. Dywedodd: “Bu’n brynhawn pleserus a fynychwyd gan nifer dda. Diolch i bawb a fu ynghlwm.”

Yn Fferm Y Bryn yn Ystrad Mynach, daeth y preswylwyr ynghyd i fwynhau parti lle y gweiniwyd brechdanau, bwyd sawrus, ffrwythau ffres a theisennau Fictoria bychain.

Yn Y Fflint, daeth preswylwyr Centenary Square ynghyd ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn i fwynhau eu parti nhw.

1
Janet, un o’r preswylwyr, yn paratoi’r bwyd yng Nghwrt St Clements, Caerdydd.
1
Bwrdd caws Cwrt Newlands.
1
Dathlu 60 mlynedd yng Nghwrt St Clements, Caerdydd.
1
Nifer dda yn mynychu’r digwyddiad yn Fferm Y Bryn, Ystrad Mynach.
1
Gwledd hyfryd yn Fferm Y Bryn, Ystrad Mynach.
1

Sut i wneud cais am eich grant parti

Nid yw hi’n rhy hwyr i gymryd rhan….

Fel rhan o’r dathliadau, rydym yn cynnig y cyfle i’n preswylwyr drefnu eu parti pen-blwydd 60 oed eu hunain.

Mae grantiau o hyd at £250 ar gael i grwpiau preswylwyr er mwyn helpu i dalu am luniaeth (dim alcohol), addurniadau, gweithgareddau ac adloniant er mwyn dwyn pobl ynghyd ar gyfer eich digwyddiad.

Os hoffech drefnu dathliad yn eich ardal chi, bydd angen i chi gysylltu â’ch Swyddog Datblygu Cymunedol lleol. Y rhain yw:

Caerdydd: Claire Ashby Claire.Ashby@wwha.co.uk  07866 156923 a Herman Valentin Herman.Valentin@wwha.co.uk  07827 279711 

Gogledd Cymru: Judith Sellwood Judith.Sellwood@wwha.co.uk  07866 156923     

Pen-y-bont ar Ogwr: Laura Allcott Laura.Allcott@wwha.co.uk  07929201313   

Gorllewin Cymru: Rhiannon Ling Rhiannon.Ling@wwha.co.uk  07791805311

Merthyr Tudful a Phowys: Claire Hammond Claire.Hammond@wwha.co.uk  07766 832692 

Gallan nhw ddweud wrthych yr hyn y bydd angen i chi ei wneud i ymgeisio.

 

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.