Dwyn byd natur yn agosach at ein cartrefi
Efallai eich bod wedi gweld arwyddion am fyd natur yn ymddangos ar safleoedd glaswelltog ger rhai o’ch cartrefi.
Mae’r rhain i gyd yn rhan o’n gwaith o ddwyn ychydig fyd natur yn agosach i’n cartrefi.
Rydym wedi cychwyn treialon i “ddad-ddofi” rhai o’r safleoedd glaswelltog yn ein cynlluniau er mwyn cynyddu eu bioamrywiaeth a’u gwneud yn fwy deniadol i fywyd gwyllt.
Fel rhan o’r arbrawf, rydym yn ystyried gwahanol ffyrdd o gynnal y safleoedd a’r ardaloedd cymunol ac rydym yn ymgynghori gyda phreswylwyr mewn ardaloedd lle’r ydym yn treialu dull gweithredu newydd.
Awgrymiadau eraill a wnaethpwyd yw gadael rhai dolydd glaswelltog ger cartrefi preswylwyr i dyfu a chynnig lloches i bryfed a bywyd gwyllt. Mewn ardaloedd o’r fath, dim ond dwywaith y flwyddyn y byddem yn torri’r glaswellt, tua diwedd yr haf neu ddechrau’r hydref, ar ôl i unrhyw flodau gwyllt hadu.
Pan fo hynny’n addas, rydym yn ystyried gwneud cymysgedd o’r ddau, trwy dorri stribyn byr o gwmpas darn o dir a gadael i’r canol dyfu’n hirach er mwyn creu effaith “ffrâm llun”.
Rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau amgylcheddol eraill hefyd i blannu dolydd blodau gwyllt, bylbiau a mwy o goed ar rai safleoedd. Hyd yn hyn, mae’r rhain yn cynnwys Clos Cradoc, Aberhonddu, Gerddi’r Ffynnon, Aberystwyth a Gwelfor, Abergwaun.
Yn ogystal â chaniatáu i fyd natur ffynnu, gall y dull hwn helpu’r amgylchedd gan bod planhigion a choed yn amsugno carbon deuocsid sy’n gysylltiedig â newid hinsawdd. Yn y tymor hwy, gall helpu i ostwng costau cynnal a chadw hefyd, gan wneud ein cynlluniau yn fannau mwy fforddiadwy i breswylwyr fyw.