Dadorchuddio hanes yng Nghaerfyrddin
Darganfuwyd potiau, teils, broetshis a gleiniau Rhufeinig, a hyd yn oed ffordd Rufeinig ar safle ein datblygiad tai newydd i bobl hŷn yng nghanol Caerfyrddin.
Mae gan Gaerfyrddin hanes hir a phwysig sy’n dyddio’n ôl i’r cyfnod Rhufeinig. Cyn i’n partneriaid adeiladu hirdymor, Jones Brothers (Henllan) Ltd, ddechrau ar y gwaith adeiladu ar hen safle siop Lidl yn Stryd y Priordy, gofynnom i archeolegwyr ddod i mewn i gloddio am weddillion hanesyddol.
Dechreuodd y tîm o Wessex Archaeology ar y gwaith cloddio ar y safle y llynedd, ac maent wedi gwneud rhai darganfyddiadau cyffrous.
Mae eu gwaith wedi dadorchuddio tystiolaeth o adeiladau, lloriau a theils Rufeinig, yn ogystal â gwaelod ffwrneisiau, y byddent wedi cael eu defnyddio i wneud gwaith metel diwydiannol.
Mae rhai eitemau mwy personol a ddarganfuwyd yn cynnwys:
- broetsh bwa aloi copr
- lamp blwm
- glain y gallai fod wedi cael ei wisgo gan Rufeiniwr cyfoethog
- pibell glai ar ffurf duwies Fenws
- llestri bwrdd Samiaidd Rhufeinig
- pin asgwrn, y mae’n debygol ei fod wedi cael ei wisgo fel addurn gwallt
Mae’r tîm wrthi yn ofalus yn tynnu lluniau ac yn cofnodi’r holl ddarganfyddiadau archeolegol. Byddant yn gorffen ar y safle yn ystod yr haf eleni, a byddant yn adrodd eu canlyniadau i Heneb, Ymddiriedolaeth Archeoleg Cymru.
“Mae’n rhyfeddol yr hyn sydd wedi bod yn gorwedd dan y safle am filoedd o flynyddoedd,” dywedodd Andrew Davies, Rheolwr Darparu Datblygu TWW.
“Mae’r archeolegwyr wedi teimlo’n gyffrous am yr hyn y maent wedi’i ddadorchuddio ac maent yn credu bod yr ardal yn arwyddocaol i hanes y dref.
“Ar ôl iddynt gofnodi ac adrodd am eu holl ddarganfyddiadau, byddwn yn cael cyngor gan Heneb am yr hyn i’w wneud gyda’r eitemau. Hoffem eu rhoi i amgueddfa leol er mwyn iddynt allu cael eu dangos fel rhan o hanes y dref.”
Mae ein contractwyr hirdymor, Jones Brothers (Henllan) Ltd, yn gweithio gyda’r archeolegwyr, ac maent wedi dechrau ar y gwaith adeiladu mewn rhannau nad ydynt yn cael eu heffeithio gan y gwaith cloddio. Disgwylir i’r datblygiad o 48 o fflatiau ar gyfer pobl hŷn fod yn barod i’r preswylwyr newydd symud i mewn erbyn 2027.
193 o gartrefi rhent fforddiadwy newydd yng Ngorllewin Cymru
Mae’r cartrefi yng Nghaerfyrddin yn rhai o’r 193 o gartrefi newydd yr ydym yn eu hadeiladu yng Ngorllewin Cymru.
Yn Abergwaun, mae Jones Brothers (Henllan) Ltd yn gwneud cynnydd da ym Mharc Y Chwarel, lle y disgwylir y bydd 50 o gartrefi newydd yn barod i breswylwyr yn ystod yr haf eleni. Yn Angorfa, ar safle hen dafarn Ship and Anchor yng nghanol y dref, disgwylir i 12 o fflatiau newydd i bobl hŷn fod yn barod yn nes ymlaen eleni. Ymhellach ar hyd yr arfordir yn Nhrefdraeth, maent yn adeiladu 12 o gartrefi newydd ym Mharc Nantwen, Dinas.
Yn nhref arfordirol boblogaidd Aberaeron, Ceredigion, mae’r gwaith yn mynd rhagddo ar 20 o fflatiau rhent fforddiadwy newydd (yn y llun). Rydym yn gweithio gyda chwmni adeiladu lleol Jamson Estates i ailddatblygu hen Ysbyty Aberaeron. Disgwylir i’r cartrefi fod yn barod i breswylwyr symud i mewn iddynt flwyddyn nesaf.
Yn nes ymlaen yn ystod yr haf eleni, bydd gwaith yn cychwyn ar ddatblygiad tai fforddiadwy mawr ger canol tref Aberteifi. Rydym wedi cael caniatâd cynllunio gan Gyngor Sir Ceredigion i adeiladu 51 o gartrefi newydd yn Ffordd Felin Newydd.