Cyfarfod y preswylwyr sy’n caru lle y maent yn byw
Mae ein Swyddogion Datblygu Cymunedol (CDOs) yn cyflawni rôl bwysig wrth ddwyn cymunedau ynghyd i deimlo’n falch o’r mannau lle y maent yn byw.
Bu CDO Caerdydd, Claire Ashby, yn gweithio gyda Cadwch Gymru’n Daclus a thimau gorfodi gwastraff Cyngor Caerdydd yn ystod y gwyliau Pasg i drefnu cyfres o sesiynau casglu sbwriel a helfeydd wyau Pasg yn Nhongwynlais, Y Sblot a’r Tyllgoed.
Cynhaliodd Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria sesiwn casglu sbwriel cymunedol gyda phreswylwyr yn Y Tyllgoed, Caerdydd i ddweud diolch ar ôl treulio tri mis yn gosod ceginau newydd mewn rhai o’r cartrefi yn yr ardal. Roedd preswylwyr, staff a’n partneriaid Cadwch Gymru’n Daclus, Carwch eich Cartref, Cyngor Caerdydd a Swyddogion Cymorth Cymunedol o Heddlu De Cymru, wedi ymuno â nhw.
Llwyddont i gasglu tua 20 cwdyn o sbwriel ac eitemau mawr eraill o’r ardal mewn ychydig oriau.
Cyflwynwyd wyau Pasg i’r preswylwyr a’u plant a oedd wedi cymryd rhan, a roddwyd gan fusnes lleol CMB Engineering.
Yn Nhongwynlais, roedd Clare yn un o’r preswylwyr a oedd wedi cymryd rhan mewn sesiwn casglu sbwriel yn St Catherine’s Drive, lle y mae hi wedi byw ers 23 mlynedd.
Dywedodd Clare ei bod hi’n falch o’r pentref lle y mae’n byw a’i bod yn gwneud ei gorau i gadw ei chymuned yn lân ac yn daclus.
“Rydw i’n ymfalchïo yn y man lle’r ydym yn byw, mae’n rhedeg yn fy nheulu,” dywedodd.
“Mae fy nhad wedi byw yn Nhongwynlais ers 73 o flynyddoedd a bu’n gweithio i’r Cyngor Cymuned yn torri’r lleiniau porfa o gwmpas Ton. Arferai ei dad ef wneud yr un peth ac erbyn hyn, mae fy mrawd yng nghyfraith yn gwneud y gwaith hwn. Felly, mae fy nheulu yn adnabyddus am gadw Ton yn lân ac yn daclus.
“Rydw i’n mynd allan gyda fy ffrind Debbie i gasglu sbwriel o gwmpas ein cartref, pryd bynnag y gallwn.”
Gyda staff o WWH, bu Clare yn helpu i gasglu saith cwdyn o sbwriel o gwmpas y cynllun.
Cyflwynwyd tystysgrif o werthfawrogiad i Bob Morger am neilltuo amser i gadw’r ystad lle y mae’n byw yn lân ac yn daclus.
Fe’i gwelir yn casglu sbwriel o gwmpas Ffordd Powell ym Mwcle, Gogledd Cymru yn rheolaidd, a chyflwynodd y staff wobr iddo a rhodd fechan i ddweud diolch.
Dywedodd Judith Sellwood, Swyddog Datblygu Cymunedol: “Mae gwaith Bob yn gwella bywydau pawb yn Ffordd Powell ac roeddem yn dymuno cydnabod pa mor werthfawr yw ei gyfraniad.
“Nid yw clirio sbwriel a sicrhau bod yr ystad yn edrych yn lân ac yn daclus yn rhywbeth sy’n digwydd heb ymdrech. Mae’r oriau y mae Bob yn eu treulio yn casglu sbwriel ac yn cyflawni tasgau eraill o gwmpas yr ystad wir yn gwneud gwahaniaeth mawr.”