Adnodd ar-lein newydd er mwyn eich helpu i reoli eich cartref
Tudalennau Diogelwch yn y Cartref
Erbyn hyn, mae ein gwefan yn cynnwys adran newydd am ddiogelwch yn y cartref, lle y gallwch gael cyngor am gynnal a chadw eich eiddo mewn un lleoliad cyfleus ar-lein.
Gellir troi at dudalennau Diogelwch yn y Cartref trwy ddewislen Rheoli Fy Nghartref ar wwha.co.uk ac mae’n cynnwys gwybodaeth am chwe maes sy’n effeithio ar ddiogelwch eich cartref.
Y rhain yw:
Sut i droi at y tudalennau
Ar fwrdd gwaith
Troi at gwymplen “Rheoli Fy Nghartref”
Ar ffôn symudol a llechen
Cliciwch yr eicon byrger, dan y brif adran sy’n nodi Rheoli fy nghartref, cliciwch ar ‘Diogelwch yn y Cartref’
Mae’r tudalennau yno i chi bori trwyddynt yn eich amser eich hun, neu er mwyn cynnig y lle i droi iddo os bydd angen cyngor arnoch am agwedd benodol ar ddiogelwch yn eich cartref sy’n perthyn i un o’r categorïau a restrir uchod.
Rydym yn darparu’r adnodd hwn fel rhan o’n dyletswydd gofal fel eich landlord. Cofiwch, os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych yn gofidio am agwedd ar ddiogelwch y cartref, gallwch siarad â’ch swyddog tai neu’ch swyddog rheoli eiddo ac ystad, anfon e-bost at contactus@wwha.co.uk neu ffonio 0800 052 2526.