Skip to content
Stories

£64,000 wedi’i godi gan staff Grŵp Tai Wales & West ar gyfer pedair elusen

Derbyniodd pedair elusen yng Nghymru gyfran o £64,000 ar ôl i weithwyr Grŵp Tai Wales & West gyrraedd eu cyfanswm codi arian uchaf erioed.

Cafodd Cymdeithas Clefyd Motor Neurone (MND), Cymru Arthritis UK, Cerebral Palsy Cymru a Parkinson’s UK Cymru £16,000 yr un i gefnogi’r gwaith hanfodol y maent yn ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru.

Bob dwy flynedd, mae staff Grŵp Tai Wales & West yn enwebu elusennau newydd i elwa o godi arian gan staff ac mae’r swm a godwyd yn ystod y cylch diweddaraf, sy’n cwmpasu 2024-25, yw’r mwyaf erioed.

1
1

Cyrhaeddwyd y cyfanswm drwy gyfuniad o weithgareddau, gan gynnwys loteri i staff a chyfres o heriau ‘60 am 60’ i nodi pen-blwydd y cwmni yn 60 oed yn 2025.⁠

Roedd rhai o’r heriau yn cynnwys:

• aelodau tîm datblygu Tai Wales & West yn cerdded 26 milltir ar hyd arfordir Sir Benfro

• 20 aelod o staff Cyllid yn mentro i ddringo mynydd uchaf de Cymru, Pen y Fan, 60 o weithiau mewn diwrnod … a dyblu eu targed

• grŵp o staff datblygu yn concro’r Her Tri Chopa Cymru mewn 24 awr

• tîm o redwyr o bob rhan o Grŵp Tai Wales & West yn cwblhau Her Fusnes Hanner Marathon Caerdydd

• staff cymorth a gofal ychwanegol yn cerdded ac yn rhedeg 600,000 o gamau mewn 60 diwrnod

1

£64,000 wedi’i godi gan staff Grŵp Tai Wales & West ar gyfer pedair elusen

Dywedodd Anne Hinchey, Prif Weithredwr Grŵp Tai Wales & West: “Rydym bob amser yn hynod falch o’r swm y mae ein staff yn ei godi drwy eu gwaith caled a’u haelioni, ac mae’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn arbennig iawn.

⁠”Bu hwb mawr o ganlyniad i’r pen-blwydd nodedig yn 60 oed a’r gyfres o heriau a osodwyd gan dimau ac unigolion.⁠

Dywedodd Carwyn Williams, Pennaeth Codi Arian, Nawdd Corfforaethol a Marchnata a Chyfathrebu Cerebral Palsy Cymru, ei bod yn gyfnod heriol ar gyfer codi arian a bod 80 y cant o incwm yr elusen yn dod o ffynonellau y maent yn eu cynhyrchu eu hunain.

This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.