200 o gartrefi newydd ar draws Gogledd Cymru
Mae’r gwaith wedi cychwyn i adeiladu 237 o gartrefi newydd ar draws Gogledd Cymru.
Mae ein partneriaid adeiladu hirdymor, Castlemead Group Ltd, wedi cychwyn ar y gwaith ar y safle yn Wrecsam ac yn Abergele.
Ym Mharc Technoleg Wynnstay yn Wrecsam, mae 43 o gartrefi yn cael eu hadeiladu a byddant yn barod i breswylwyr eu rhentu flwyddyn nesaf.
Mae Castlemead Group wedi cychwyn ar y safle yn Eaton Drive hefyd, gan adeiladu 12 o fflatiau rhent fforddiadwy a llety byw â chymorth. Yn Llai, gerllaw, mae’r gwaith o ailddatblygu’r hen floc o fflatiau yng Nghwrt Pentwmpath wedi cychwyn.
Disgwylir i’r preswylwyr cyntaf symud i mewn i Lys Onnen yn Abergele yn nes ymlaen eleni. Mae’r gwaith o adeiladu 43 o fflatiau ar gyfer pobl dros 55 oed ar fin cael ei gwblhau ar safle hen gartref gofal.
Disgwylir mai’r garreg filltir fawr nesaf yng Nglan y Môr, lle y caiff 54 o gartrefi eu hadeiladu ar gyfer y gymuned leol ym Mae Colwyn, fydd gosod y fframiau pren. Disgwylir i’r datblygiad, a leolir yn Bay View Road, gael ei gwblhau yn gynnar yn 2027.
Bydd y gwaith yn cychwyn cyn bo hir ar ddatblygiad newydd ym Modelwyddan. Lleolir Maes Ysgubor oddi ar Bryn Morfa, gerllaw ysbyty Glan Clwyd. Bydd yn ddatblygiad a fydd yn cynnwys 31 o gartrefi ar ffurf chwe fflat un ystafell wely, 19 o dai dwy, tair a phedair ystafell wely, a chwech byngalo un a dwy ystafell wely.