Skip to content

Croeso i In Touch

Rhifyn diweddaraf ein cylchgrawn i breswylwyr Tai Wales & West.

 

 

Neges wrth Anne

Croeso i’r rhifyn digidol hwn o’n cylchgrawn In Touch, sy’n rhifyn arbennig i ddathlu ein pen-blwydd yn 60.

Ers i ni lansio ein rhifyn digidol cyntaf yn ystod yr haf y llynedd, rydym wedi dechrau dathlu 60 mlynedd o Dai Wales & West yn darparu cartrefi.

Efallai bod rhai ohonoch chi eisoes wedi bod yn ein helpu i ddathlu mewn partïon 60 yn eich cymunedau. Diolch i bawb sydd wedi defnyddio ein cynllun grant i drefnu partïon er mwyn dwyn cymdogion ynghyd; o’r lluniau yr ydych chi wedi eu hanfon i mewn, mae’n edrych fel pe baech wedi bod yn cael hwyl ac yn mwynhau bwyd da.

Gyda rhagor o bartïon ar y gweill dros yr haf, mawr obeithiwn y bydd pawb sy’n dymuno cymryd rhan yn cael y cyfle i wneud hynny. Os nad ydych chi wedi gwneud cais am gyllid eto, wrth i chi ddarllen hwn, byddwch yn cael gwybod yr hyn y bydd angen i chi ei wneud.

Fel rhan o’n dathliadau 60 mlynedd, rydym hefyd wedi bod yn cyfarfod preswylwyr sydd wedi bod yn byw yn ein cartrefi am flynyddoedd lawer, ac maent wedi rhannu eu straeon ysbrydoledig nhw gyda ni.

Bu’r ymateb i rifyn digidol haf llynedd yn gadarnhaol. Dywedodd y rhai sy’n mwynhau darllen eu newyddion ar-lein ei fod yn haws i’w ddilyn. I eraill, y mae’n well ganddynt ddarllen copi caled, byddwch yn falch o glywed y byddwn yn dosbarthu copïau caled o’n rhifyn ar gyfer yr hydref/gaeaf.

Mawr obeithiwn y byddwch yn mwynhau ei ddarllen.

Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau am bynciau yr hoffech eu gweld mewn rhifynnau yn y dyfodol, neu syniadau am ffyrdd y gallem wella, cysylltwch â’n Tîm Cyfathrebu.

1

Uchafbwyntiau’r rhifyn hwn:

 

Caru lle’r ydych yn byw

Mae sbwriel a thipio anghyfreithlon yn broblem gynyddol yn ein cymunedau. Bydd cyfle i gyfarfod y preswylwyr sy’n troedio’r strydoedd er mwyn sicrhau bod eu cynlluniau yn rhydd rhag sbwriel a chewch wybod yr hyn y gallwch chi ei wneud er mwyn helpu i atal tipio anghyfreithlon lle’r ydych yn byw.

 

Darllen mwy am hyn

 

1
This site is registered on wpml.org as a development site. Switch to a production site key to remove this banner.