Ynglŷn â’r datblygiad hwn
Rydym yn gweithio gyda’n partneriaid datblygu tymor hir Jehu Group i ddatblygu 50 o fflatiau i’w rhentu ar safle’r hen dafarn y Three Brewers a’r garej gwerthu ceir yn Colchester Avenue yng Nghaerdydd.
Bydd y cynllun yn cael ei adeiladu mewn dau floc 4 a 5 llawr wedi eu gysylltu, gyda phob bloc yn cynnwys cymysgedd o fflatiau 1 a 2 ystafell wely modern, ynni-effeithlon. Bydd y cynllun hefyd yn cynnwys siop fanwerthu ar y llawr gwaelod, yn ogystal â pharcio ceir, storfeydd beiciau a man amwynder cymunol awyr agored i breswylwyr.
Mae Colchester Avenue wedi’i leoli yn ardal boblogaidd Penylan a dim ond taith fws fer i ganol y ddinas. Mae Ffordd Casnewydd yn gartref i amrywiaeth o siopau ac archfarchnadoedd. Mae yna lawer o archfarchnadoedd gerllaw gan gynnwys Aldi, Lidl a Sainsbury’s.
Wrth ymyl y datblygiad mae cymysgedd o siopau llai yn Lady Margaret Court ac mae taith gerdded fer yn dod â chi i’r ffyrdd poblogaidd Albany Road / Heol Wellfield sy’n cynnwys amryw o siopau annibynnol bach, enwau ar y Stryd Fawr, caffis, bwytai, banciau, cyfleusterau iechyd a llyfrgell Penylan a chanolfan gymunedol.
Mae yna nifer o ysgolion Cynradd ac Uwchradd Cymraeg a Saesneg o fewn y dalgylch. Mae yna safle bws yn agos at y safle ar hyd Colchester Avenue gyda gwasanaethau rheolaidd i ganol y ddinas a lleoliadau eraill yng Nghaerdydd.
Am ymholiadau ynghylch adeiladu’r cynllun hwn, cysylltwch â development.queries@wwha.co.uk
Ar ôl eu cwblhau, bydd yr eiddo hwn yn cael ei ddyrannu trwy Gofrestr Tai Cyffredin Cyngor Caerdydd. I ymuno â’r gofrestr bydd angen i chi gysylltu â Chyngor Caerdydd:
Gwefan: www.cardiff.gov.uk
Ffôn: 029 2053 7111