Ynglŷn â’r datblygiad hwn
Mae Clos Pentland yn ddatblygiad sy’n cynnwys 82 o fflatiau a dyma’r fflatiau newydd cyntaf yr ydym wedi eu hadeiladu ar gyfer pobl hŷn yng Nghaerdydd ers nifer fawr o flynyddoedd.
Bydd y cynllun oddi ar Clos Chiltern a Malvern Drive, Llanisien, Caerdydd, a fydd yn costio £10 miliwn, yn creu cymuned o fflatiau wedi’u hadeiladu dros bum bloc tri llawr. Bydd pob bloc yn cynnwys rhwng 11 ac 19 o fflatiau.
Bydd y datblygiad hwn ar gyfer y rhai dros 55 oed yn bennaf, gan gynnig cartrefi modern a hawdd i’w cynnal, ac sy’n defnyddio ynni mewn ffordd effeithlon. Bydd y fflatiau yn gymysgedd o fflatiau un a dwy ystafell wely gyda balconïau a safleoedd cymdeithasol cymunol, lle y gall preswylwyr gyfarfod a gwneud ffrindiau.
Bydd gan bob bloc fynedfa sy’n wynebu ei gilydd, yn hytrach na chael eu hadeiladu ar eu pen eu hunain, a’r bwriad yw creu ymdeimlad o gymuned.
Symudodd y contractwyr, Hale Construction, i’r safle ym mis Mai 2018, a disgwylir iddynt gwblhau’r gwaith fesul cam ar draws 2019 a dechrau 2020.
Bydd gan bob bloc o fflatiau gyntedd estynedig ger y fynedfa, lle y gall pobl eistedd a sgwrsio gyda’u cymdogion.
Mae Llanisien yn faestref deiliog a phoblogaidd yng Nghaerdydd, lle y gwelir ymdeimlad gwych o gymuned a chysylltiadau da gydag ardaloedd cyfagos a chanol y ddinas.
Mae’n cynllun drws nesaf i orsaf rheilffordd, a cheir cysylltiadau rheolaidd i ganol y ddinas ac i gymunedau cyfagos Rhiwbeina, y Waun Ddyfal a Birchgrove. Mae archfarchnadoedd Lidl a Morrisons gerllaw, ynghyd â pharc manwerthu Parc Tŷ Glas, lle y gwelir siopau Simply Food, Starbucks, DW sports a Pets at Home.
Mae’r cynllun hwn yn agos i lwybrau bysiau ac i bentref Llanisien hefyd, sy’n cynnwys ymdeimlad go iawn o gymuned gyda’i heglwys, ei thafarndai, ei banciau, ei Swyddfa Bost, ei chlwb rygbi, ei chaffis, ei chanolfan hamdden a’i Chanolfan Gymunedol, sy’n cynnig gwasanaethau sy’n groesawgar i’r rhai sydd â dementia gan gynnwys llyfrgell a chyngor ynghylch budd-dal tai.
Os oes gennych chi ymholiadau am unrhyw ymholiadau pellach am y cynllun, anfonwch e-bost at development.queries@wwha.co.uk
Ar ôl eu cwblhau, caiff yr eiddo hyn eu neilltuo trwy Gofrestr Tai Cyffredin Cyngor Caerdydd, ac er mwyn ymuno â’r gofrestr, bydd angen i chi gysylltu â Chyngor Caerdydd:
Ffôn: 029 2053 7111