Ynglŷn â’r datblygiad hwn
Mae Tai Wales & West yn gwerthu cartref diwedd teras sy’n cynnwys 3 ystafell wely yn natblygiad poblogaidd Redrow yng Ngwenfô, The Grange.
Mae’r eiddo mewn man y mae galw mawr amdano, ac sy’n boblogaidd ymhlith preswylwyr a’r rhai sy’n prynu cartref am y tro cyntaf yn yr ardal.
Mae’r eiddo yn manteisio ar y canlynol:
- Tair ystafell wely
- Gwarant NHBC 10 mlynedd
- Gardd ddiogel
- Lle parcio oddi ar y ffordd i 2 gar
- Lleoliad mewn ffordd bengaead dawel
- Gwres canolog nwy
- Cysylltiadau mynediad da i’r M4
- Gerllaw mwynderau lleol
- Ystafell gotiau i lawr y grisiau
Gweithredir y cynllun hwn gan Dai Wales & West mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol er mwyn cynorthwyo’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf* ac sy’n dymuno bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, ond nad ydynt yn gallu talu’r gost lawn o brynu eu cartref cyntaf.
Cynigir cartrefi dan y cynlluniau i brynwyr am 70% o’u gwerth ar y farchnad agored. Byddech chi’n berchen ar yr eiddo yn llwyr, ond byddai Tai Wales & West yn dal pridiant cyfreithiol mewn perthynas â’r gyfran ecwiti o 30% sy’n weddill. Dim ond morgais/blaendal am y 70% y byddai angen i chi ei sicrhau, ac ni fyddai unrhyw log neu rhent yn daladwy ar y gyfran ecwiti o 30%.
Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos trwy forgais mewn egwyddor eu bod yn gallu ariannu 70% o werth yr eiddo. Byddai blaendal o rhwng 5% ac 15% yn ofynnol o hyd gan gwmnïau morgais fel arfer.
Bydd prynu eiddo trwy’r cynllun yn golygu y bydd angen talu’r costau arferol sy’n gysylltiedig â phrynu eiddo ar y farchnad agored o hyd, gan gynnwys prisiad, ffioedd morgais ac arolygon, ffioedd cyfreithiol a threth stamp.
Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cynllun, rhaid bod ymgeiswyr:
- dros 18 oed
- yn ddeiliad pasbort y DU neu UE / AEE neu bod stamp ‘Caniatâd Amhenodol i Aros’ ar eu pasbort
- yn prynu cartref am y tro cyntaf*
- yn gallu bodloni’r ymrwymiad ariannol hirdymor o fod yn berchen ar gartref
- heb fod yn ennill mwy na’r incwm uchaf i aelwyd; £35,000 i ymgeisydd sengl neu £45,000 am ymgeiswyr ar y cyd
*Ar gyfer y cynllun hwn, ystyrir bod rhywun sy’n prynu am y tro cyntaf yn unigolyn/unigolion nad ydynt fyth wedi berchen ar eiddo (trwy forgais neu heb fod trwy forgais) o’r blaen, nad ydynt fyth wedi berchen ar eiddo yn rhannol neu ar y cyd, neu fyth wedi cael eu henw ar forgais neu weithredoedd eiddo. Fodd bynnag, fesul achos unigol, ystyrir ymgeiswyr sy’n prynu am y tro cyntaf eu hunain, lle y gallent fod wedi bod yn berchen ar eiddo ar y cyd yn flaenorol, ond y mae hwn wedi cael ei werthu erbyn hyn, er enghraifft o ganlyniad i ysgariad.
Bydd angen ad-dalu’r gyfran ecwiti o 30% i Dai Wales & West yn unol â chyfradd y farchnad ar yr adeg pan werthir yr eiddo. Gall hyn olygu y bydd angen i chi ad-dalu mwy na’r 30% gwreiddiol efallai os bydd gwerth yr eiddo wedi codi, neu lai os bydd gwerth yr eiddo wedi disgyn.
Fel rhan o’r cynllun, cynigir yr eiddo i brynwyr cymwys am 70% o’u gwerth ar y farchnad. Er enghraifft, os yw’r eiddo yn werth £100,000, bydd angen i’r prynwyr sicrhau morgais o £70,000 a bydd Tai Wales & West yn cadw’r gwerth 30%, sef £30,000.
Pan fyddwch yn dymuno gwerthu eich eiddo, rhaid i chi gysylltu â Thai Wales & West, a fydd yn y lle cyntaf, yn gweithio mewn partneriaeth â’r cynghorau awdurdod lleol i chwilio am brynwr ar gyfer yr eiddo.
Nodir yr amserlenni ar gyfer y broses hon yn eich dogfennaeth gyfreithiol. Os na nodir unrhyw brynwyr addas ar gyfer yr eiddo o fewn yr amserlenni, byddwch yn rhydd i werthu eich eiddo heb unrhyw gyfyngiadau ar y farchnad agored. Bydd angen i ni gytuno ar ei werth ar y farchnad cyn iddo gael ei werthu.
Bydd angen ad-dalu’r gyfran ecwiti a gadwyd, sef 30% o werth yr eiddo, i Dai Wales & West ar yr adeg pan gaiff ei werthu.
Sylwer y gwerthir yr eiddo hyn i ymgeiswyr a fydd yn gymwys yn gyntaf, ac yn ail, i’r rhai a fydd yn llwyddo i gael cynnig morgais neu y maent mewn sefyllfa i gwblhau’r broses brynu yn gyntaf.
Bydd prynu eiddo dan y cynllun yn golygu y bydd yn rhaid talu’r holl gostau arferol sy’n gysylltiedig â phrynu eiddo ar y farchnad agored, gan gynnwys:
ffioedd arolygu / prisiad
ffioedd cyfreithiwr
costau y gofrestrfa tir
ffioedd chwilio
blaendal morgais
treth stamp
Byddai’n ddoeth bod gennych chi gynilion i dalu’r costau hyn. Yn ychwanegol i’r costau unigol uchod sy’n gysylltiedig â phrynu eiddo, byddwch yn gyfrifol am gostau parhaus hefyd megis:
- taliadau morgais misol
taliadau treth gyngor
biliau cyfleustodau: nwy, trydan, dŵr ac ati
costau cynnal a chadw a thrwsio yr eiddo
yswiriant cynnwys
yswiriant bywyd neu yswiriant bywyd morgais
Mae’r prynwr yn gyfrifol am egluro ac ystyried yr holl gostau posibl sy’n gysylltiedig â phrynu a rhedeg eiddo.
Codir rhai taliadau ar gyfer rhai o’n Cynlluniau Perchentyaeth Cost Isel.
Cartrefi sydd ar gael...
Sut i wneud cais
Am fwy o wybodaeth am yr eiddo cysylltwch â Bethan Christofides o Dai Wales & West ar 02920 414092 neu’r Tîm Strategaeth Tai yng Nghyngor y Fro ar 01443 709433/796 neu e-bostiwch
housingstrategy@valeofglamorgan.gov.uk