Newyddion

09/06/2022

Swyddogion Prosiect Datblygu dan Hyfforddiant: Dathlu 6 mis


6 mis ar ôl ymuno â Thai Wales & West fel Swyddogion Prosiect Datblygu dan Hyfforddiant, rydym wedi bod yn holi Faizal Sweeney, Luke Morris a Rachel Darlington (yn y llun uchod) am eu profiad hyd yn hyn, sut y maent yn mwynhau’r rôl a’r hyn y mae rhaglen Datblygu ein gweithlu ein hunain wedi ei gynnig iddyn nhw hyd yn hyn.

Beth oedd wedi eich denu i raglen hyfforddeion Tai Wales & West yn y lle cyntaf?

Luke:  Roedd yr hysbyseb wreiddiol am y swydd yn cynnwys llawer iawn o wybodaeth, ac roedd yn dangos yn glir yr hyn yr oedd y rhaglen hyfforddiant gynhwysfawr yn ei olygu.  Soniodd bod y rhaglen yn cael ei chynnal dros ddwy flynedd, gan archwilio’r ffyrdd amrywiol y gallwn ddysgu yn y cwmni, wedi’i gyfuno gyda phrofi gwahanol agweddau ar y swydd er mwyn fy mharatoi yn llawn ar gyfer yr adeg pan fyddaf yn cwblhau’r rôl fel hyfforddai.  Roedd y meddwl a’r manylder yng nghynllun Datblygu ein gweithlu ein hunain wedi dangos i mi bod Tai Wales & West wir yn dymuno meithrin fy sgiliau a sicrhau bod gennyf yr holl elfennau angenrheidiol ar gyfer gyrfa lwyddiannus.

Rachel:  Ar ôl i mi orffen astudio yn y brifysgol, roeddwn yn gwybod fy mod yn dymuno llwyddo mewn cynllun graddedig a fyddai’n berthnasol i’m gradd ym maes cynllunio.  Roedd ffrind wedi argymell y cynllun graddedig i mi gan eu bod yn gwybod bod Wales & West yn gwmni gwych i weithio iddo, ac roedden nhw’n iawn, heb os!

6 mis yn ddiweddaraf, a yw’r rôl wedi bodloni eich disgwyliadau?

Rachel:  I fod yn onest, nid oeddwn yn siŵr yr hyn i’w ddisgwyl o’r rôl, ond rydw i’n ei fwynhau yn fawr iawn hyd yn hyn!  Heb os, mae wedi rhagori ar fy nisgwyliadau gan bod fy ngwybodaeth o faes datblygu yn ehangu bob dydd.

Faizal:  Ydy, mae wedi.  Rydw i wedi dysgu cryn dipyn am faterion sy’n ymwneud â’n prosiectau.  Bellach, rydw i’n edrych ymlaen at y misoedd nesaf pan fyddaf yn arwain fy mhrosiectau datblygu fy hun.

 

Disgrifiwch ddiwrnod nodweddiadol yn eich rôl.

Luke:  Mae gennyf amrediad o brosiectau gwella yr wyf yn gweithio arnynt gyda fy nghyd Swyddogion Prosiect Datblygu dan Hyfforddiant.  Fel arfer, byddaf yn canolbwyntio ar ychydig brosiectau y dydd, gan gysgodi Swyddogion Datblygu yn nhîm Gogledd Cymru hefyd er mwyn cael profiad ymarferol o’r broses ddatblygu.  Yn ogystal, byddaf yn ceisio sicrhau cydbwysedd gyda fy nysgu fy hun – mae gan Wales and West adnoddau gwych ar gyfer hyn, megis cyrsiau a gweminarau ar-lein, ac mae’r rhain wedi bod yn fuddiol iawn er mwyn ehangu fy ngwybodaeth ac ymestyn fy natblygiad.

Faizal:  Rydym yn gweithio ar brosiectau lluosog ar hyn o bryd, lle’r ydym yn ceisio helpu i symleiddio’r broses ddatblygu i bawb dan sylw.  Mae hyn yn amrywio o ddatblygu, tai ac i’r bobl bwysicaf – ein preswylwyr.

Beth yw eich hoff beth ynghylch gweithio i Dai Wales & West?

Rachel:  Mae pawb wedi bod mor gyfeillgar a chroesawgar dros y 6 mis diwethaf!  Rydw i wedi mwynhau dod i adnabod amrediad o wahanol bobl ar draws gwahanol adrannau.  Teimlaf y gallaf ofyn i unrhyw un am help ac maen nhw wastad yn fodlon helpu ym mhob ffordd y gallant.

Luke:  Y bobl.  Ers ymuno, mae pawb yr wyf wedi siarad gyda nhw wedi bod yn hynod gyfeillgar a pharod eu cymwynas.  Mae pawb mor agored ac wedi bod yn awyddus i roi help llaw neu gynnig gair o gyngor.  Rydw i wedi mwynhau meithrin perthnasoedd gyda phobl ar draws y busnes ac rydw i’n edrych ymlaen i’w datblygu ymhellach yn y dyfodol.

Faizal:  Mae’n mynd i swnio’n rhywbeth cyffredinol iawn, ond mae’n hollol wir pan fydd pobl yn dweud ei fod yn lle gwych i weithio.  Cyn i mi ddechrau yma, roedd dau gyn gydweithiwr (a oedd wedi gweithio i Dai Wales & West yn flaenorol) wedi dweud ei fod yn lle gwych i weithio, a phan gychwynnais yn y rôl, roedd pob un yr oeddwn wedi eu cyfarfod wedi dweud yr un peth.  Rydw i wedi bod yma chwe mis erbyn hyn ac rydw i’n cytuno 100%.  Mae pawb wedi bod yn groesawgar ac os bydd angen help arnaf – rydw i’n gwybod y bydd rhywun yn helpu heb i mi deimlo fy mod yn peri trafferth iddynt.

A fyddech chi’n argymell rôl hyfforddai gyda Thai Wales & West i eraill?

Luke:  Bydden i’n ei argymell i eraill, yn bendant.  Rydw i’n teimlo ei fod wedi bod yn fan cychwyn gwych i’m gyrfa, gan fy mod i wedi cael cyfle i feithrin fy ngwybodaeth a chynyddu lefel fy nghyfrifoldeb trwy gydol y cwrs.  Mewn busnesau eraill, mae’n siŵr mai eilbeth fyddai fy natblygiad i, ond nid yw hyn yn wir wrth gyflawni rôl hyfforddai WWH.  At hynny, mae gennyf rwydwaith cymorth gwych felly os byddaf yn cael unrhyw broblemau, rydw i’n gwybod yn union ble i droi.

Faizal:  Byddwn, heb os.  Nid yn unig y mae Tai Wales & West yn lle gwych i weithio, ond gyda’r ffordd y mae rhaglen Datblygu ein Gweithlu ein Hunain wedi cael ei threfnu, rydw i wedi cael llawer iawn o wybodaeth a fydd yn fy helpu i symud ymlaen yn llwyddiannus i’r sector datblygu.

Rachel:  Heb os, byddwn yn argymell rôl hyfforddai, mae’n gyflwyniad gwych ar gyfer cam cyntaf eich gyrfa!

Dan Ryan

Cyswllt: Dan.Ryan@wwha.co.uk