Cyfnod atal byr y Coronafeirws
Bydd cyfnod atal byr mewn grym ar draws Cymru o 6pm ar nos Wener 23 Hydref tan ddechrau ddydd Llun 9 Tachwedd 2020, pan fydd cyfres o fesurau cyfyngol mewn grym.
Byddwn yn addasu’r ffordd y byddwn yn darparu ein gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwn.
Cwestiynau cyffredin
Ehangwch yr acordionau isod i ddarganfod mwy am y ffordd y byddwn yn darparu ein gwasanaethau yn ystod cyfnod atal byr y Coronafeirws.
A fyddwch chi'n parhau i wneud gwaith trwsio yn ystod y cyfnod atal byr?
Byddwn yn parhau i wneud gwaith trwsio hanfodol yn ystod y cyfnod atal byr ar draws Cymru gyfan rhwng 6pm ar nos Wener 23 Hydref a dydd Llun 9 Tachwedd. Ffoniwch 0800 052 2526.
A fyddwch chi'n parhau i osod cartrefi yn ystod y cyfnod atal byr?
Byddwn yn parhau i osod cartrefi trwy gydol y cyfnod atal byr i’r rheini sydd mewn angen brys neu hanfodol. Gweler ein tudalen Gosodiadau am ragor o wybodaeth.
A fyddaf yn gallu symud tŷ o hyd
Yn ystod y cyfnod hwn, gallwn drefnu ymweliadau rhith â’n heiddo, ac os yw’ch dyddiad wedi cael ei drefnu eisoes, ac nid oes modd ei newid, byddwn yn eich cynorthwyo gystal ag y gallwn.
A oes unrhyw waith trwsio arall neu waith cynnal a chadw nad yw'n hanfodol yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod atal byr?
Byddwn yn parhau i wneud gwaith cynnal a chadw mewn eiddo gwag yn ystod y cyfnod atal byr, yn yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Beth fydd yn digwydd i wasanaethau safle fel garddio a thorri porfa?
Byddwn yn parhau i gynnal gwasanaethau safle yn yr awyr agored. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi na fydd gwaith yn yr awyr agored, gan gynnwys adeiladu, garddio a gwaith trwsio ar du allan eiddo yn cael ei effeithio gan y cyfnod atal byr.
A fydd mannau chwarae awyr agored ar agor?
Byddant, bydd mannau chwarae awyr agored yn parhau i fod ar agor yn ystod y cyfnod atal byr.
Gwybodaeth bellach
Llywodraeth Cymru: Cyfnod atal byr y Coronafeirws – cwestiynau cyffredin