Oriau agor Canolfan Alwadau – Gadewch i ni wybod eich barn
Rydym wedi bod yn rhedeg canolfan alwadau 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos gyda rhif rhadffôn ers dros 20 mlynedd, ac mae’r rhan fwyaf o’r cyswllt gyda ni yn ystod yr amser hwn wedi bod dros y ffôn.
Mae hyn wedi newid yn ddiweddar, wrth i nifer gynyddol o breswylwyr a chwsmeriaid gysylltu ag aelodau o staff yn uniongyrchol, naill ai mewn neges e-bost, neges destun neu neges WhatsApp, ac mae nifer y galwadau i’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid wedi lleihau.
Yn ogystal, rydym wedi gweld rhagor o breswylwyr a chwsmeriaid yn adrodd am broblemau ac yn talu eu rhent ar-lein trwy ein gwefan.
Rydym yn bwriadu gwneud rhai newidiadau i’r amseroedd pan fyddwch yn gallu cysylltu â ni, a hoffem gynnig y cyfle i chi fynegi eich barn i ni.
Gan bod cyn lleied o bobl yn ein ffonio gyda’r hwyr ac ar benwythnosau, rydym yn bwriadu newid yr oriau agor o’r cyfleuster 24 awr y dydd presennol i ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y dydd.
Dywedwch wrthym beth yw eich barn
Os hoffech fod yn rhan o’r gwaith o’n helpu i siapio ein cynnig hunanwasanaeth digidol, anfonwch e-bost at contactus@wwha.co.uk