
Anne Hinchey
Prif Weithredwr
Mae Anne wedi bod yn gweithio ym maes tai ers dros 30 mlynedd, gan ymuno â ni ym 1999 a dod yn Brif Weithredwr yn 2006. Mae’n gyn enillydd Gwobr Prif Swyddog Gweithredol y Flwyddyn sy’n Canolbwyntio Fwyaf ar Bobl (Sector Cyhoeddus a Di-elw) yng Ngwobrau Rhagoriaeth AD.
Aelod o Fwrdd Cambria, Enfys Developments , Castell Ventures a Castell Homes.

Shayne Hembrow
Dirprwy Brif Weithredwr / Cyfarwyddwr Masnachol
Mae gan Shayne dros 30 mlynedd o brofiad ym maes tai ac adfywio yn y sector cyhoeddus a phreifat.
Cyfrifoldebau: Tai, Datblygu, Gofal a Chymorth, CC a Marchnata a Datblygu’r Busnes.
Buddiannau eraill: Cadeirydd Shelter Cymru, Cadeirydd Wood Knowledge Wales, Aelod o Fwrdd Castell Ventures.

Stuart Epps
Cyfarwyddwr Adnoddau
Mae Stuart yn Gyfrifydd Siartredig a ymunodd â ni fel Pennaeth Cyllid yn 2011, a daeth yn Gyfarwyddwr Adnoddau ym mis Ionawr 2016. Cyfrifoldebau: Cyllid, rheoli trysorlys, gwasanaethau corfforaethol, archwilio ac uniondeb.
Buddiannau eraill: Aelod o Fwrdd Tai Pawb, Aelod o Fwrdd Cambria, Enfys Developments and Castell Homes.

Steve Porter
Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Ymunodd Steve yn 2008 fel Pennaeth Gwasanaethau Eiddo a daeth yn Gyfarwyddwr Gweithrediadau yn 2012. Mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad o weithio ym maes tai ac adeiladu ar gyfer awdurdodau lleol a chymdeithasau tai. Mae gan Steve radd mewn tirfesur a chymhwyster proffesiynol mewn adeiladu.
Cyfrifoldebau: Gwasanaethau Eiddo a Gwasanaethau Cynnal a Chadw Cambria Buddiannau eraill: Aelod o Fwrdd Cambria.