Mae’n llwyddiant fel sefydliad o ganlyniad i’n tîm talentog ac ymroddedig o dros 600 o bobl sy’n gweithio ar draws Cymru.
Darparir ein gwasanaethau dan dimau arbenigol o staff, y mae nifer ohonynt wedi’u lleoli yn yr ardaloedd y mae ein preswylwyr yn byw. Mae nifer yn gweithio o bell, gan fanteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf sydd ar gael i’w helpu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd da i’n holl gwsmeriaid.
Mae gennym nifer o staff sy’n gweithio ar safleoedd, sy’n sicrhau bod ein hystadau a’n cynlluniau yn cael eu cynnal a’u cadw yn dda, yn ogystal â staff arbenigol sy’n rheoli ein llety ar gyfer pobl hŷn.
Yn ogystal, mae gennym dîm penodedig sy’n gweithio yn ein Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid sydd ar gael 24 awr y dydd, ac sy’n delio â dros 240,000 o alwadau bob blwyddyn.
Yn ein prif swyddfa yng Nghaerdydd, ein swyddfa ar gyfer gogledd Cymru yn y Fflint a’n swyddfa ar gyfer gorllewin Cymru yng Nghastellnewydd Emlyn, mae’n timau effeithiol a phroffesiynol yn sicrhau bod yr holl staff yn meddu ar y systemau a’r wybodaeth y mae ei hangen arnynt er mwyn gwneud y gwaith gorau y gallant.
Cwestiynau Cyffredin
Sut allaf fod yn Aelod o'r Bwrdd?

Tîm y Cyfarwyddwyr
Ein Prif Weithredwr, gyda chymorth tîm o gyfarwyddwyr, sy’n gyfrifol am redeg ein sefydliad o ddydd i ddydd.

Aelodau’r Bwrdd
Mae’n Bwrdd yn pennu cyfeiriad strategol y busnes, mae’n cytuno ar benderfyniadau mawr ac yn y pen draw, mae’n cymryd cyfrifoldeb dros ein perfformiad. Bydd aelodau yn gwasanaethu am dair blynedd, hyd at uchafswm o naw mlynedd o’r bron.